RHAN 1Rhagymadrodd

Dehongli: cyffredinol2.

(1)

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd iechyd planhigion” (“plant health inspector”) yw swyddog iechyd planhigion swyddogol a benodir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “awdurdod priodol” (“appropriate authority”) yw Gweinidogion Cymru, ac mae i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6;

ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC” (“Council Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau i ddiogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu yn y Gymuned5;
ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 19726);

ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

ystyr “eitem a reoleiddir” (“regulated item”) yw—

(a)

unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall y mae un F1o’r rheolau iechyd planhigion yn gymwys iddynt, heblaw unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall sy’n rhan o lwyth a reolir, neu

(b)

pla planhigion a reolir;

ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 20057;
ystyr “Gorchymyn 2018” (“the 2018 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 20188;

F2mae i “label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon” yr ystyr a roddir i “Northern Ireland plant health label” yn rheoliad 2 o Reoliadau Fframwaith Windsor (Iechyd Planhigion) 2023

ystyr “llwyth a reolir” (“controlled consignment”) yw llwyth sy’n cynnwys unrhyw blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall—

(a)

na chaniateir dod â hwy i F3Brydain Fawr heb dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer allforio neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn unol â’r canlynol—

  1. (i)

    Erthygl 72 neu 74 F4o’r Rheoliad Iechyd Planhigion ,

  2. (ii)

    F5...

  3. (iii)

    unrhyw un arall F6o’r rheolau iechyd planhigion , heblaw Erthygl 73 F6o’r Rheoliad Iechyd Planhigion, neu

(b)

a allforiwyd o F3Brydain Fawr i drydedd wlad ac sy’n dychwelyd i F3Brydain Fawr ar ôl i’r drydedd wlad honno wrthod mynediad i’r wlad iddynt;

F7...

F8ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw pasbort sy’n basbort planhigion y DU neu’n basbort planhigion arall a ganiateir;

ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw pla a fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(1) a (2) F9o’r Rheoliad Iechyd Planhigion;

ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—

(a)

pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, F102A, 3 neu 4 i’r Rheoliad Amodau Ffytoiechydol,

(b)

F11...

(c)

pla planhigion sy’n destun unrhyw un arall F12o’r rheolau iechyd planhigion F13, gan gynnwys pla planhigion cwarantin posibl o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 21(3);

F14ystyr “rheol iechyd planhigion” (“plant health rule”) yw rheol o’r fath a grybwyllir yn Erthygl 1(2)(g) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;

ystyr “Rheoliad Amodau Ffytoiechydol” (“Phytosanitary Conditions Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf i weithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion9;

F14ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion” (“Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau gwarchod rhag plâu planhigion5;

ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion F15fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE10;

ystyr “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol” (“Official Controls Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys F16i’r rheolau iechyd planhigion;

ystyr “SRFFf 15” (“ISPM 15”) yw’r Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 15 dyddiedig Mawrth 2002 ynghylch Canllawiau ynglŷn â rheoleiddio deunydd pecynnu pren mewn masnach ryngwladol, a baratowyd gan Ysgrifenyddiaeth y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig12;

F17...

(2)

Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i eiriau ac ymadroddion sydd heb eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn ymddangos yn F18y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan y geiriau ac ymadroddion Saesneg cyfatebol yn F18y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (yn ôl y digwydd).