RHAN 6Cofrestru, awdurdodiadau a thystysgrifau ynglŷn ag iechyd planhigion
Ceisiadau eraill20.
(1)
Rhaid i’r ceisiadau a ganlyn gael eu gwneud i’r awdurdod priodol yn y modd a’r ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod priodol—
(a)
cais am awdurdodiad dros dro i ganiatáu gweithgaredd perthnasol at ddibenion profion swyddogol, dibenion gwyddonol neu addysgol, treialon, dethol neu fridio amrywogaethau;
(b)
cais am awdurdodiad y cyfeirir ato yn y darpariaethau a ganlyn yn F1y Rheoliad Iechyd Planhigion —
(i)
Erthygl 64(2),
(ii)
Erthygl 89(1), neu
(iii)
Erthygl 98(1);
(2)
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “gweithgaredd perthnasol” yw gweithgaredd a fyddai fel arall wedi ei wahardd o dan F4y Rheoliad Iechyd Planhigion F5... neu F6reol iechyd planhigion arall ac sy’n golygu—
(a)
cyflwyno pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall i Gymru,
(b)
symud pla planhigion neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall yng Nghymru,
(c)
dal pla planhigion a reolir neu blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall ar fangre yng Nghymru, neu
(d)
lluosogi pla planhigion ar fangre yng Nghymru.