RHAN 8Gofynion o ran hysbysiadau: iechyd planhigion

Gofynion o ran hysbysiadau mewn perthynas â phlanhigion a chynhyrchion planhigion eraill

26.—(1Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n dod ag unrhyw un neu ragor o’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion a ganlyn i Gymru, cyn y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru neu heb fod yn hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd iechyd planhigion ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—

(a)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Olea europaea L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L. a fwriedir i’w plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall,

(b)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Olea europaea L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L. a fwriedir i’w plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yn y Swistir ac nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddynt, neu

(c)pren tanwydd solet o Aelod-wladwriaeth arall, neu bren tanwydd solet o drydedd wlad nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddo.

(2Dyma’r materion—

(a)y dyddiad y disgwylir i’r llwyth gyrraedd neu, os yw’r llwyth wedi cyrraedd Cymru, y dyddiad y cyrhaeddodd Gymru gyntaf;

(b)cyrchfan arfaethedig y llwyth, neu os yw’r llwyth wedi cyrraedd ei gyrchfan arfaethedig yng Nghymru, ei leoliad presennol;

(c)genws, rhywogaeth a nifer y planhigion neu’r pren yn y llwyth;

(d)y wlad y traddodwyd neu y traddodir y planhigion neu’r pren ohoni;

(e)yn achos planhigion y bwriedir eu plannu, rhif adnabod cyflenwr y planhigion;

(f)yn achos pren tanwydd solet—

(i)cyfeiriad y traddodwr, a

(ii)manylion unrhyw driniaethau ffytoiechydol a roddwyd i’r pren.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “pren tanwydd solet” yw pren tanwydd ar ffurf logiau, plociau, brigau, ffagodau neu ffurfiau tebyg eraill.