RHAN 9Pwerau cyffredinol arolygwyr iechyd planhigion a gorfodi

Hawl mynediad a roddir gan warant a ddyroddir gan ynad heddwch29.

(1)

Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd i fangre o dan reoliad 16(1), 28(1) neu 31(1), gan ddefnyddio grym rhesymol os oes ei angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)

bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno, a

(b)

bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.

(2)

Dyma’r amodau—

(a)

bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,

(b)

y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre,

(c)

bod angen mynd i’r fangre ar fyrder, neu

(d)

bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.

(3)

Mae gwarant yn ddilys am un mis.

(4)

Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr oedd cyn iddo fynd iddi.