31.—(1) Os bydd person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd iechyd planhigion fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd neu beri cymryd unrhyw gamau y mae’r arolygydd iechyd planhigion o’r farn eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.
(2) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.
[F1(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a)i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd, neu
(b)mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a roddir o dan Atodlen 4A.]
(4) Caiff arolygydd iechyd planhigion ddod ag unrhyw bersonau F2... F3... gydag ef a chaiff ddod ag unrhyw offer a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd o’r farn eu bod yn angenrheidiol.
(5) Caiff person sy’n dod gydag arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff (4)—
(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb arolygydd iechyd planhigion,
(b)dod ag unrhyw ofer neu gerbydau i’r fangre y mae’r person o’r farn eu bod yn angenrheidiol, ac
(c)cyflawni gwaith yn y fangre mewn modd a gyfarwyddir gan arolygydd iechyd planhigion.
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 31(3) wedi ei amnewid (15.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/1303), rhlau. 1, 2(2)
F2Gair yn rhl. 31(4) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(4)(a)
F3Geiriau yn rhl. 31(4) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1628), rhlau. 1(2)(b), 11(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 31 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1