RHAN 11Troseddau ynglŷn â deddfwriaeth iechyd planhigion

Darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol41.

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw, at ddibenion sicrhau awdurdodiad neu drwydded neu at ddibenion sicrhau y dyroddir pasbort planhigion F1y DUF2, label iechyd planhigion Gogledd Iwerddon neu dystysgrif—

(a)

yn fwriadol neu’n ddi-hid yn gwneud datganiad neu sylwadau sy’n ffug o ran manylyn perthnasol,

(b)

yn fwriadol neu’n ddi-hid yn darparu dogfen neu wybodaeth sy’n ffug o ran manylyn perthnasol, neu

(c)

yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.