RHAN 11Troseddau ynglŷn â deddfwriaeth iechyd planhigion
Rhwystro43.
(1)
Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—
(a)
yn fwriadol yn rhwystro arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi F1y Rheoliad Iechyd Planhigion, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn,
(b)
heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r person awdurdodedig eu gwneud yn ofynnol at y dibenion hynny, neu
(c)
yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan fo awdurdod priodol neu arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi F2y Rheoliad Iechyd Planhigion, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.
F3(2)
Ym mharagraff (1)—
(a)
ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol;
(b)
mae cyfeiriad at y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir a fabwysiedir, neu reoliadau a wneir, o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol ac unrhyw gyfraith iechyd planhigion arall yr UE a ddargedwir.