Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

RhwystroLL+C

43.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi [F1y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn,

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r person awdurdodedig eu gwneud yn ofynnol at y dibenion hynny, neu

(c)yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan fo awdurdod priodol neu arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi [F2y Rheoliad Iechyd Planhigion], y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

[F3(2) Ym mharagraff (1)—

(a)ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol;

(b)mae cyfeiriad at y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir a fabwysiedir, neu reoliadau a wneir, o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol ac unrhyw gyfraith iechyd planhigion arall yr UE a ddargedwir.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 43 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1