RHAN 11Troseddau ynglŷn â deddfwriaeth iechyd planhigion

Rhwystro43.

(1)

Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)

yn fwriadol yn rhwystro arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi F1y Rheoliad Iechyd Planhigion, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn,

(b)

heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i arolygydd iechyd planhigion neu berson awdurdodedig unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’n rhesymol i’r arolygydd neu’r person awdurdodedig eu gwneud yn ofynnol at y dibenion hynny, neu

(c)

yn methu â dangos dogfen neu gofnod pan fo awdurdod priodol neu arolygydd iechyd planhigion sy’n gweithredu i weithredu neu orfodi F2y Rheoliad Iechyd Planhigion, y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol neu’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny.

F3(2)

Ym mharagraff (1)—

(a)

ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol;

(b)

mae cyfeiriad at y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn cynnwys cyfraith F4a gymathwyd a fabwysiedir, neu reoliadau a wneir, o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol ac unrhyw gyfraith iechyd planhigion arall F4a gymathwyd.