46.—(1) Pan fo trosedd o dan y Rhan hon wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig ac y profir bod y drosedd—
(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu
(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog,
mae’r swyddog, yn ogystal â’r corff corfforedig, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu
(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o’r fath.
(3) Os yw materion corff corfforedig yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli fel y mae’n gymwys i un o swyddogion corff corfforedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 46 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1