RHAN 3Rheolaethau swyddogol ar lwythi a reolir o drydydd gwledydd a rheolaethau swyddogol eraill ar nwyddau o drydydd gwledydd

Llwythi sydd heb eu cyflwyno’n gywir ar gyfer rheolaethau swyddogolI19

Pan fo arolygydd iechyd planhigion yn amau neu’n ymwybodol nad yw llwyth a reolir wedi ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol yn unol ag Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol, neu yn unol â’r gofynion eraill y cyfeirir atynt yn Erthygl 66(6) o’r Rheoliad hwnnw, rhaid i’r arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am y llwyth yn adalw’r llwyth ac yn rhoi’r llwyth yng nghadw yn swyddogol.