ATODLEN 2
RHAN 4Mesurau i reoli poblogaethau Ewropeaidd o Lyngyr tatws
Atal Llyngyr tatws
12.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws mewn cae a heigiwyd nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd iechyd planhigion.
(2)
Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a dim ond os yw’r arolygydd wedi ei fodloni bod pob cam rhesymol i atal Llyngyr tatws yn y cae wedi eu cymryd yn unol â’r rhaglen reoli swyddogol a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer atal Llyngyr tatws y caniateir iddo gael ei roi.