ATODLEN 2
RHAN 6Mesurau i reoli Pydredd coch tatws
Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatws
27.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—
(a)
unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu
(b)
unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.
(2)
Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 26(2), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—
(a)
yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd fod yn destun unrhyw F1ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws;
(b)
yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu F2drwy ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws;
(c)
yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—
(i)
cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu
(ii)
cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.
(3)
Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion F3y Rhan hon.