ATODLEN 2
RHAN 2Darpariaethau cyffredinol ynglŷn â phlannu rhywogaethau mochlysaidd penodol
Cyfyngiadau cyffredinol ar blannu tatws
2.
(1)
Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—
(a)
unrhyw datws a dyfwyd mewn trydedd wlad F1y mae’r gwaharddiad yn Erthygl 40(1) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion yn gymwys iddynt, neu
(b)
unrhyw datws a gynhyrchir o’r tatws hynny.
(2)
Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu unrhyw datws, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu oni bai—
(a)
eu bod yn tarddu mewn llinell uniongyrchol o ddeunydd tatws sydd wedi ei gael o dan F2raglen ar gyfer ardystio tatws a gymeradwywyd yn swyddogol gan awdurdod cymwys neu awdurdod Tiriogaeth Ddibynnol y Goron ,
(b)
y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd cylch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn F3EPPO PM 7/21, ac
(c)
y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd coch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn F4EPPO PM 7/59.