Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 31/12/2020
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 13/11/2020.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, RHAN 4.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
7. Yn y Rhan hon—
ystyr “bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible bulbs”) yw bylbiau, cloron neu risomau, a dyfwyd mewn pridd ac a fwriedir i’w plannu, o Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Dahlia spp., Gladiolus Tourn. Ex L., Hyacinthus spp., Iris spp., Lilium spp., Narcissus L. neu Tulipa L., heblaw’r rhai y ceir tystiolaeth drwy gyfrwng eu pecynnau neu drwy ddulliau eraill y bwriedir iddynt gael eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â chynhyrchu planhigion neu flodau wedi eu torri;
ystyr “cae” (“field”) yw ardal sydd wedi ei darnodi fel cae at ddibenion Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC;
ystyr “cae a heigiwyd” (“infested field”) yw cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol â pharagraff 9(1);
ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion cynhaliol, bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);
ystyr “Llyngyr tatws” (“Potato cyst nematode”) yw unrhyw lyngyr sy’n ffurfio systiau o’r rhywogaeth Globodera pallida (Stone) Behrens neu Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens sy’n heigio ac yn lluosogi ar datws, gan gynnwys unrhyw fath neu bathoteip o lyngyr o’r fath;
ystyr “planhigion cynhaliol” (“host plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L.;
ystyr “planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible plants”) yw planhigion ac iddynt wreiddiau Allium porrum L., Asparagus officinalis L., Beta vulgaris L., Brassica spp. neu Fragaria L.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
8. Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a)bod ymchwiliadau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol ag Erthyglau 4 a 5 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau y bwriedir plannu neu storio ynddynt datws hadyd neu ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu planhigion i’w plannu, a
(b)bod arolygon swyddogol yn cael eu cynnal yn unol ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC ar gyfer presenoldeb Llyngyr tatws mewn caeau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws, heblaw’r rhai a fwriedir ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
9.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canlyniadau pob ymchwiliad swyddogol neu arolwg swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 8 yn cael eu cofnodi i ddangos a ganfuwyd Llyngyr tatws yn y caeau yn ystod yr ymchwiliad neu’r arolwg.
(2) Pan fo’r mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol ac a nodir yn Adran 3(C) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC wedi eu cymryd mewn cae y cofnodwyd ei fod wedi ei heigio yn unol ag is-baragraff (1) ac, ar ôl cwblhau’r mesurau hynny, y cadarnheir yn swyddogol nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cofnod yn cael ei ddiweddaru yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
10.—(1) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu i’r person arall sydd â gofal am gae a heigiwyd, sy’n pennu ffiniau’r cae a heigiwyd.
(2) Ni chaniateir tynnu’r hysbysiad yn ôl hyd nes y cadarnheir, yn unol â pharagraff 9(2) nad oes Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach.
(3) Rhaid i arolygydd iechyd planhigion, drwy hysbysiad, ddynodi bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n dod o gae y cofnodwyd yn swyddogol ei fod wedi ei heigio o dan baragraff 9(1) neu unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sydd wedi bod mewn cysylltiad â phridd lle cafwyd Llyngyr tatws yn ddeunydd halogedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
11.—(1) Oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd, ni chaiff unrhyw berson—
(a)plannu unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu tatws hadyd mewn cae a heigiwyd, neu
(b)plannu neu storio unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei blannu mewn cae a heigiwyd.
(2) Caiff arolygydd iechyd planhigion awdurdodi plannu bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau mewn cae a heigiwyd.
(3) Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (2) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
12.—(1) Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws mewn cae a heigiwyd nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd iechyd planhigion.
(2) Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a dim ond os yw’r arolygydd wedi ei fodloni bod pob cam rhesymol i atal Llyngyr tatws yn y cae wedi eu cymryd yn unol â’r rhaglen reoli swyddogol a fabwysiadwyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer atal Llyngyr tatws y caniateir iddo gael ei roi.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
13.—(1) Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws hadyd nac unrhyw blanhigion cynhaliol sydd wedi eu dynodi yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3), oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.
(2) Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau sy’n angenrheidiol ym marn yr arolygydd i ddihalogi’r tatws hadyd neu’r planhigion cynhaliol hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
14.—(1) Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw datws a ddynodwyd yn halogedig yn unol â pharagraff 10(3) ac a fwriedir ar gyfer prosesu neu raddio diwydiannol, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.
(2) Rhaid i awdurdodiad o dan is-baragraff (1) gael ei roi drwy hysbysiad a rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i’r tatws gael eu danfon i safle prosesu neu raddio sydd â gweithdrefnau gwaredu gwastraff priodol a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes risg y bydd Llyngyr tatws yn lledaenu.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
15. Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sydd wedi eu dynodi fel rhai a halogwyd yn unol â pharagraff 10(3), oni bai eu bod wedi bod yn destun y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC a bod arolygydd wedi cadarnhau drwy hysbysiad nad ydynt wedi eu halogi mwyach.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
16. Os yw unrhyw achos a amheuir o Lyngyr tatws neu unrhyw achos o bresenoldeb Llyngyr tatws a gadarnhawyd yn deillio o fethiant neu newid o ran effeithiolrwydd amrywogaeth tatws sydd ag ymwrthedd sy’n ymwneud â newid eithriadol o ran cyfansoddiad rhywogaethau llyngyr, pathodeipiau neu grwpiau gwenwyndra, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir drwy ddulliau priodol ymchwiliad i’r rhywogaeth o Lyngyr tatws dan sylw a, pan fo’n gymwys, y pathoteip a’r grŵp gwenwyndra dan sylw, a’u bod yn cael eu cadarnhau drwy ddulliau priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: