ATODLEN 2
RHAN 7Mesurau ynglŷn â thatws o’r Aifft
F1Mesurau ychwanegol ynglŷn â thatws o’r Aifft
31.
(1)
(2)
Ni chaiff unrhyw weithredwr proffesiynol—
(a)
symud unrhyw datws o’r Aifft yng Nghymru oni bai eu bod wedi eu labelu i ddangos eu bod yn tarddu o’r Aifft;
(b)
prosesu, paratoi, golchi neu becynnu unrhyw datws o’r Aifft mewn mangre yng Nghymru heblaw mewn mangre y mae Gweinidogion Cymru wedi ei chymeradwyo mewn ysgrifen at y diben hwnnw.
(3)
Nid yw is-baragraff (2)(b) yn gymwys i becynnu neu baratoi unrhyw datws o’r Aifft mewn siop, bwyty, ffreutur, clwb, tŷ tafarn, ysgol, ysbyty, neu sefydliad tebyg (gan gynnwys cerbyd neu stondin sefydlog neu symudol) i’w ddanfon at y defnyddiwr terfynol.