ATODLEN 3Troseddau: darpariaethau perthnasol mewn deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd
RHAN 2Y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol
Y ddarpariaeth yn y Rheoliad Rheolaethau Swyddogol | Y pwnc |
---|---|
Erthygl 47(5) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 5 a 7 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2122 yn ategu Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran categorïau penodol o anifeiliaid a nwyddau a esemptir o reolaethau swyddogol mewn safleoedd rheoli ar y ffin, rheolaethau penodol ar fagiau personol teithwyr ac ar lwythi bach o nwyddau a anfonir at bobl naturiol na fwriedir eu rhoi ar y farchnad60) | Yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithredwr sy’n gyfrifol am lwyth perthnasol sy’n dod F1i Brydain Fawr sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno ar gyfer rheolaethau swyddogol ar y safle rheoli ar y ffin lle daw F1i Brydain Fawr am y tro cyntaf. |
Erthygl 50(1) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol y mae Erthygl 47(1) yn gymwys iddo gyflwyno’r tystysgrifau neu’r dogfennau swyddogol gwreiddiol y mae’n ofynnol iddynt fynd gyda’r llwyth i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin. |
Erthygl 50(3) | Yn gwahardd gweithredwr llwyth perthnasol rhag hollti’r llwyth nes y bydd rheolaethau swyddogol wedi eu cyflawni a bod y Ddogfen Mynediad Iechyd Cymunedol (“DMIC”) wedi ei chwblhau. |
Erthygl 56(1) | Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol gwblhau’r rhan berthnasol o’r DMIC. |
Yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr llwyth perthnasol roi hysbysiad ymlaen llaw i awdurdodau cymwys y safle rheoli ar y ffin fod y llwyth yn cyrraedd cyn i’r llwyth gyrraedd F1Prydain Fawr yn gorfforol. |