Diwygiadau Testunol
14.—(1) Caiff y person y cyflwynwyd hysbysiad terfynol iddo apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;
(d)yn achos gofyniad nad yw’n ofyniad ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;
(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;
(f)bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.]