F1ATODLEN 4A Sancsiynau sifil
RHAN 6Adennill cost
Adennill costau gorfodaeth
32.
(1)
Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad adennill cost os yw unrhyw un neu ragor o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi eu bodloni.
(2)
Mae hysbysiad adennill cost yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu costau’r awdurdod priodol.
(3)
Yr amodau yw bod yr awdurdod priodol wedi—
(a)
cyflwyno i’r person hysbysiad cydymffurfio o dan baragraff 1,
(b)
cyflwyno i’r person hysbysiad adfer o dan baragraff 2,
(c)
cyflwyno i’r person gosb ariannol amrywiadwy o dan baragraff 4, neu
(d)
cyflwyno i’r person hysbysiad stop o dan baragraff 17.
(4)
Yn is-baragraff (2), mae cyfeiriad at gostau yn gyfeiriad at unrhyw gostau sy’n ymwneud â llunio a rhoi hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad stop, yn ôl y digwydd, ac mae’n cynnwys cyfeiriad at gostau unrhyw ymchwiliad cysylltiedig neu gyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(5)
Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gynnwys gwybodaeth o ran—
(a)
swm y costau y mae rhaid eu talu,
(b)
o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,
(c)
sut y mae rhaid talu,
(d)
canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod talu a bennir, ac
(e)
hawliau i apelio.
(6)
Ar ôl i’r cyfnod talu penodedig ddod i ben, caiff yr awdurdod priodol adennill y costau y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad adennill cost fel pe baent yn daladwy o dan orchymyn gan y llys.
(7)
Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad adennill cost iddo apelio yn ei erbyn.
(8)
Y seiliau dros apelio yw—
(a)
bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)
bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)
bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;
(d)
bod swm y gosb yn afresymol;
(e)
bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.