ATODLEN 5Diwygio is-ddeddfwriaeth ynglŷn â marchnata hadau a deunydd lluosogi planhigion a ffioedd iechyd planhigion
RHAN 6Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017
6.
(1)
Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 201769 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn rheoliad 3(1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2000/29/EC”.
(3)
Hepgorer rheoliad 10(6).
(4)
Yn rheoliad 11(7), yn lle’r geiriau o “masnachwr planhigion” hyd at “2018” rhodder “gweithredwr proffesiynol at ddibenion Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion”.
(5)
Yn rheoliad 15(1)(g), yn lle paragraff (iii) rhodder—
“(iii)
pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, 3 neu 4 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion.”