ATODLEN 5LL+CDiwygio is-ddeddfwriaeth ynglŷn â marchnata hadau a deunydd lluosogi planhigion a ffioedd iechyd planhigion

RHAN 6LL+CRheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.LL+C

(2Yn rheoliad 3(1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2000/29/EC”.

(3Hepgorer rheoliad 10(6).

(4Yn rheoliad 11(7), yn lle’r geiriau o “masnachwr planhigion” hyd at “2018” rhodder “gweithredwr proffesiynol at ddibenion Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion”.

(5Yn rheoliad 15(1)(g), yn lle paragraff (iii) rhodder—

(iii)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodiad 2, 3 neu 4 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 yn sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

(1)

O.S. 2017/691 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/368 (Cy. 90); ceir offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un yn berthnasol.