- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
5 Mawrth 2020
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6 Mawrth 2020
Yn dod i rym
6 Mawrth 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 13, 45C(1), (2) a (3)(a), 45F(2)(a) a (b), 45P(2) a 60A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Yn unol ag adran 45Q(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, mae Gweinidogion Cymru yn datgan eu bod o’r farn nad yw’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45C(3)(c) o’r Ddeddf honno sy’n gosod neu’n galluogi gosod cyfyngiad neu ofyniad arbennig(2) neu unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall sy’n cael neu a fyddai’n cael effaith sylweddol ar hawliau person.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 6 Mawrth 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (clefydau a syndromau hysbysadwy), ar ôl “Brwselosis” mewnosoder “Clefyd coronafirws 2019 (COVID-19)”.
(3) Yn Atodlen 2 (cyfryngau achosol), ar ôl “Coronafirws y syndrom anadlu acíwt difrifol (SARS)” mewnosoder “Coronafirws y syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2)”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010 (“Rheoliadau 2010”) sy’n gosod rhwymedigaethau ar wahanol bersonau at ddiben atal mynychder neu ledaeniad haint neu halogiad, diogelu rhagddo, ei reoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd iddo.
Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod “Clefyd coronafirws 2019 (COVID-19)” yn Atodlen 1 i Reoliadau 2010 at ddibenion ychwanegu hwn at y rhestr o “Clefydau a Syndromau” y mae dyletswydd ar ymarferwyr meddygol i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os credir bod clefyd neu syndrom o’r fath ar glaf y maent yn ei wasanaethu. Mae’r ddyletswydd hon yn estyn i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn corff marw.
Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod “Coronafirws y syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2)” yn Atodlen 2 i Reoliadau 2010 at ddibenion ychwanegu hwn at y rhestr o “Cyfryngau Achosol” y mae dyletswydd ar weithredwyr labordai diagnostig i hysbysu awdurdod lleol perthnasol amdanynt os ydynt yn darganfod cyfrwng, neu dystiolaeth o gyfrwng o’r fath, mewn sampl ddynol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 13, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Mae swyddogaethau a arferir o dan adrannau 45C(1), (2) a (3)(a), 45F(2)(a) a (b), 45P(2) a 60A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 45T(6) o’r Ddeddf honno sy’n diffinio “the appropriate Minister” fel Gweinidogion Cymru o ran Cymru at ddibenion Rhan 2A o’r Ddeddf honno, ac adran 60A(6) o’r Ddeddf honno sy’n diffinio “the appropriate Minister” fel Gweinidogion Cymru o ran Cymru at ddibenion adran 60A o’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F, 45P a 45T yn Neddf 1984 gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) (“Deddf 2008”), a mewnosodwyd adran 60A yn Neddf 1984 gan adran 130 o Ddeddf 2008 a pharagraff 16 o Atodlen 11 iddi.
Gweler adran 45C(6) o Ddeddf 1984 ar gyfer ystyr “special restriction or requirement”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: