NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1984 (Cy. 165)) (“Rheoliadau 2007”).

Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007 wedi ei ddiwygio fel bod y diffiniad o “y Rheoliad CE” yn cynnwys cyfeiriad at Atodiad 3 (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd) o Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Rhagfyr 2006 ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd (OJ Rhif L 404, 30.12.2006, t. 26), fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2019/650 dyddiedig 24 Ebrill 2019 sy’n diwygio Atodiad 3 i Reoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch Yohimbe (Pausinystalia yohimbe (K. Schum) Pierre ex Beille) (OJ Rhif L 110, 25.4.2019, t. 21).

Mae rheoliad 4(2) o Reoliadau 2007 wedi ei ddiwygio fel ei bod yn drosedd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan A o’r Rheoliad CE at fwydydd, neu ddefnyddio sylwedd o’r fath wrth weithgynhyrchu bwydydd.

Mae rheoliad 4(2) o Reoliadau 2007 wedi ei ddiwygio ymhellach fel ei bod yn drosedd ychwanegu sylwedd a restrir yn Atodiad 3, Rhan B o’r Rheoliad CE at fwydydd, neu ddefnyddio sylwedd o’r fath wrth weithgynhyrchu bwydydd oni bai bod y sylwedd hwnnw yn cael ei ychwanegu neu ei ddefnyddio yn unol â’r amodau a bennir yn y Rhan honno.

Mae darpariaeth drosiannol newydd (rheoliad 4A) wedi ei mewnosod yn Rheoliadau 2007 i ddarparu nad oes unrhyw drosedd yn cael ei chyflawni mewn cysylltiad ag unrhyw fwyd nad yw’n cydymffurfio â darpariaethau Atodiad 3, Rhan B sy’n ymwneud â thraws-fraster ac eithrio traws-fraster sy’n digwydd yn naturiol mewn braster sy’n dod o anifeiliaid ac a roddir ar y farchnad cyn 1 Ebrill 2021.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.