Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Atebolrwyddau Presennol ar gyfer Ymarfer Cyffredinol) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 263 (Cy. 62)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Atebolrwyddau Presennol ar gyfer Ymarfer Cyffredinol) (Cymru) 2020

Gwnaed

11 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Mawrth 2020

Yn dod i rym

6 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 30(8) a (9), a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cynllun Atebolrwyddau Presennol ar gyfer Ymarfer Cyffredinol) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2020.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “atebolrwydd perthnasol” (“relevant liability”) yw atebolrwydd presennol y mae’r Cynllun yn gymwys iddo;

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi ei sefydlu yn unol ag adran 11(2) o Ddeddf 2006;

ystyr “contractwr Rhan 4” (“Part 4 contractor”) yw person sy’n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu sy’n gwneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, yn unol â threfniant contractiol (gan gynnwys trefniant neu gytundeb contractiol sy’n rhan o set o drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau, yn ychwanegol at y gwasanaethau meddygol sylfaenol) a wneir â’r person hwnnw o dan un o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006—

(a)

adran 41(2)(b) (gwasanaethau meddygol sylfaenol),

(b)

adran 42(1) (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol), neu

(c)

adran 50 (trefniadau gan Fwrdd Iechyd Lleol ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol);

ystyr “y Cynllun” (“the Scheme”) yw’r cynllun sydd wedi ei sefydlu gan reoliad 3(1);

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “y gwasanaeth iechyd” (“the health service”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf 2006;

ystyr “gwasanaethau iechyd ategol” (“ancillary health services”) yw gwasanaethau, ac eithrio gwasanaethau meddygol sylfaenol, a ddarperir fel rhan o’r gwasanaeth iechyd gan berson a oedd, ar adeg darparu’r gwasanaethau—

(a)

yn gontractwr Rhan 4 a’i brif weithgaredd oedd darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol,

(b)

yn is-gontractwr gwasanaethau meddygol sylfaenol a’i brif weithgaredd oedd darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu

(c)

yn berson a oedd yn darparu’r gwasanaethau o dan drefniant contractiol â pherson a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b);

ystyr “gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“primary medical services”) yw’r gwasanaethau meddygol sylfaenol y mae’r Bwrdd Iechyd Lleol o dan ddyletswydd i’w sicrhau yn unol ag adran 41 o Ddeddf 2006;

ystyr “is-gontractwr gwasanaethau meddygol sylfaenol” (“primary medical services sub-contractor”) yw person sy’n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan drefniant contractiol a wneir â chontractwr Rhan 4;

ystyr “person cymwys” (“eligible person”) yw person a bennir yn rheoliad 5;

ystyr “sefydliad amddiffyn meddygol” (“medical defence organisation”) yw sefydliad—

(a)

nad yw’n cynnal gweithgareddau at ddibenion gwneud elw ar gyfer ei ddosbarthu i’w aelodau neu i eraill, a

(b)

y mae ei amcanion yn cynnwys darparu sicrwydd indemniad proffesiynol, yn ôl disgresiwn, ar gyfer y personau sy’n darparu gwasanaethau fel rhan o’r gwasanaeth iechyd;

ystyr “swyddogaeth berthnasol” (“relevant function”) yw—

(a)

darparu’r canlynol neu wneud trefniadau ar gyfer darparu’r canlynol—

(i)

gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu

(ii)

gwasanaethau iechyd ategol, neu

(b)

cyflawni gweithgaredd mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau a grybwyllir ym mharagraff (a).

Sefydlu a gweinyddu’r Cynllun

3.—(1Mae cynllun, sydd i’w alw’n Gynllun Atebolrwyddau Presennol ar gyfer Ymarfer Cyffredinol, wedi ei sefydlu.

(2Gweinidogion Cymru sydd i weinyddu’r Cynllun.

Ystyr “atebolrwydd presennol”

4.  Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “atebolrwydd presennol” yw atebolrwydd mewn camwedd o dan gyfraith Cymru a Lloegr sy’n ddyledus gan berson cymwys i drydydd parti sy’n codi o weithred neu anweithred—

(a)a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2019,

(b)a oedd yn gysylltiedig â swyddogaeth berthnasol,

(c)sy’n achosi anaf personol neu golled, neu a achosodd anaf personol neu golled, i’r trydydd parti, a

(d)a oedd yn weithred neu’n anweithred ar ran y person cymwys neu gyflogai i’r person cymwys, a oedd yn gysylltiedig â gwneud diagnosis o salwch neu ofal neu driniaeth unrhyw berson.

Personau cymwys

5.—(1Mae person cymwys yn berson sydd neu a oedd, ar y dyddiad perthnasol—

(a)yn aelod o sefydliad amddiffyn meddygol ac yn berson sy’n dod o fewn paragraff (2), neu

(b)yn berson y mae person sy’n dod o fewn is-baragraff (a) wedi ei gymryd ymlaen i gyflawni swyddogaeth berthnasol neu y mae person o’r fath yn caniatáu iddo gyflawni swyddogaeth berthnasol.

(2Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn y paragraff hwn—

(a)contractwr Rhan 4,

(b)is-gontractwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu

(c)person sy’n darparu gwasanaethau iechyd ategol.

(3Ym mharagraff (1), ystyr “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad y digwyddodd y weithred neu’r anweithred a arweiniodd at atebolrwydd presennol sydd gan y person cymwys.

Atebolrwyddau y mae’r Cynllun yn gymwys iddynt

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Cynllun yn gymwys i atebolrwydd presennol—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i drefniant contractiol â sefydliad amddiffyn meddygol, a

(b)o dan y trefniant hwnnw, pan fo’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried darparu indemniad neu gynhorthwy mewn cysylltiad â gweithred neu anweithred ar ran aelod, neu gyn-aelod, o’r sefydliad amddiffyn meddygol sy’n arwain at yr atebolrwydd presennol.

(2Mae’r Cynllun yn gymwys i atebolrwydd presennol sy’n dod o fewn paragraff (1) o 1 Ebrill 2021 neu unrhyw ddyddiad cynharach y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ddyddiad y penderfynir arno o dan baragraff (2) yn y London Gazette, yr Edinburgh Gazette a’r Belfast Gazette.

Taliadau o dan y Cynllun

7.—(1Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu a yw taliad o dan y Cynllun i’w wneud mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol.

(2Caniateir i daliad o dan y Cynllun gael ei wneud i berson cymwys neu ar ei ran.

(3Caniateir i daliad o dan y Cynllun gael ei wneud hefyd pan fo person cymwys—

(a)wedi marw,

(b)wedi ei ddiddymu neu ei ddirwyn i ben (o fewn ystyr “dissolved” a “wound up” yn Neddf Cwmnïau 2006(2)), neu

(c)wedi mynd i ansolfedd neu wedi mynd yn fethdalwr.

(4Gweinidogion Cymru sydd i benderfynu ar swm unrhyw daliad a wneir o dan y Cynllun yn unol â rheoliad 8.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “methdalwr” yr un ystyr ag a roddir i “bankrupt” yn adran 381(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986(3) (“Bankrupt” a’r derminoleg gysylltiedig), a

(b)mae i “ansolfedd” yr un ystyr ag a roddir i “insolvency” yn adran 247(1)(4) o Ddeddf Ansolfedd 1986 (ystyr “insolvency” a “go into liquidation”).

Materion perthnasol wrth benderfynu ar swm taliad o dan y Cynllun

8.—(1Wrth benderfynu ar swm taliad o dan y Cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r materion (“materion perthnasol”) a bennir yn y paragraffau a ganlyn.

(2Pan fo iawndal wedi ei ddyfarndalu gan lys yn erbyn person cymwys, y materion perthnasol yw swm—

(a)y dyfarndal,

(b)y costau cyfreithiol a’r costau cysylltiedig a ddyfarndelir i’r hawlydd, ac

(c)unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran y person cymwys.

(3Pan fo person cymwys, mewn unrhyw achos cyfreithiol, wedi cytuno ar setliad neu pan gytunwyd ar setliad o’r fath ar ei ran, y materion perthnasol yw swm—

(a)unrhyw swm a delir neu sy’n daladwy gan y person cymwys mewn perthynas â’r hawliad am iawndal,

(b)unrhyw gyfraniad gan y person cymwys tuag at unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan yr hawlydd, ac

(c)unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran y person cymwys.

(4Pan fo llys, mewn unrhyw achos cyfreithiol, wedi gwrthod dyfarndalu iawndal yn erbyn person cymwys, y materion perthnasol yw—

(a)swm unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran y person cymwys, a

(b)y graddau nad yw’r costau hynny yn adenilladwy naill ai gan yr hawlydd neu gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol o dan reoliadau(5) sydd wedi eu gwneud o dan adran 26(5) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(6) (costau mewn achosion sifil).

(5Pan fo person cymwys, ac eithrio yng nghwrs achos cyfreithiol, wedi cytuno, pa un ai er mwyn setlo hawliad yn erbyn y person cymwys neu fel arall, i wneud unrhyw daliad i berson, neu unrhyw gyfraniad tuag at y costau cyfreithiol a’r costau cysylltiedig yr eir iddynt gan berson, mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol, y materion perthnasol yw swm—

(a)y taliad,

(b)unrhyw gyfraniad, ac

(c)unrhyw gostau cyfreithiol a chostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran y person cymwys.

(6Pan fo person cymwys wedi cytuno i gael ei rwymo gan benderfyniad gan unrhyw berson o ran gwneud taliad gan y person cymwys mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol, y materion perthnasol yw swm—

(a)y taliad,

(b)unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig a ddyfarndelir i’r hawlydd, ac

(c)unrhyw gostau cyfreithiol neu gostau cysylltiedig yr eir iddynt gan neu ar ran y person cymwys.

Yr amgylchiadau na chaniateir i daliad gael ei wneud odanynt o dan y Cynllun

9.  Heb gyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan reoliad 7, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad oes taliad i’w wneud o dan y Cynllun—

(a)pan fo’r person cymwys wedi cyfaddef atebolrwydd, heb gael cydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru yn gyntaf,

(b)pan fo llys wedi penderfynu ar atebolrwydd mewn achos a gynhelir gan neu ar ran y person cymwys, ac eithrio gan ymgynghori â Gweinidogion Cymru,

(c)pan na fo’r person cymwys wedi cydymffurfio ag amod a osodir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â hawliad,

(d)pan fo taliad yn dod i’w wneud gan y person cymwys a, heb gael cydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru yn gyntaf, pan fo’r person cymwys yn cytuno—

(i)i gael ei rwymo gan benderfyniad gan unrhyw berson o ran gwneud taliad mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol y mae’r Cynllun yn gymwys iddo, neu

(ii)i wneud unrhyw daliad arall mewn cysylltiad â’r atebolrwydd perthnasol, ac eithrio yng nghwrs achos cyfreithiol neu i wneud taliad o ganlyniad i setliad mewn achos cyfreithiol,

(e)pan fyddai’r taliad yn swm sy’n llai nag unrhyw swm a bennir gan Weinidogion Cymru fel yr isafswm sy’n daladwy o dan y Cynllun mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol, neu

(f)pan fo’r person cymwys wedi methu (pa un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol) â chydymffurfio â hysbysiad o dan reoliad 11.

Taliadau ar gyfrif

10.—(1Heb gyfyngu ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan reoliad 7, pan fo taliad yn dod i’w wneud gan berson cymwys mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol ac na fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad eto o dan reoliad 7 o ran a oes taliad i’w wneud mewn cysylltiad â’r atebolrwydd perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad ar gyfrif mewn cysylltiad â’r atebolrwydd perthnasol.

(2Caniateir i daliad ar gyfrif gael ei wneud i berson cymwys neu ar ei ran.

(3Pan fo swm unrhyw daliad ar gyfrif yn fwy nag unrhyw swm y penderfynir arno wedi hynny o dan reoliad 7, mae’r gweddill yn adenilladwy oddi wrth y person cymwys neu’r person y gwnaed y taliad ar gyfrif iddo.

(4Pan na fo unrhyw daliad i’w wneud o dan reoliad 7 mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol, mae unrhyw daliad ar gyfrif a wneir mewn cysylltiad ag atebolrwydd perthnasol yn adenilladwy oddi wrth y person cymwys neu’r person y gwnaed y taliad ar gyfrif iddo.

Yr wybodaeth a’r cynhorthwy sydd i’w darparu gan bersonau cymwys

11.—(1At ddibenion y Cynllun, caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i berson cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw gynhorthwy neu wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad.

(2Caiff hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) bennu—

(a)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid darparu unrhyw gynhorthwy neu wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)y modd y mae’r cynhorthwy neu’r wybodaeth i’w ddarparu neu i’w darparu.

(3Rhaid i berson cymwys gydymffurfio â hysbysiad o dan baragraff (1).

Gwybodaeth o ran unrhyw gyfarwyddydau neu ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru

12.  Rhaid i Weinidogion Cymru roi ar gael i bersonau cymwys yr wybodaeth a ganlyn, ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adegau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol—

(a)unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 30(5) o Ddeddf 2006, a

(b)unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru i unrhyw un neu ragor o’r cyrff a bennir yn yr is-adran honno, mewn perthynas â’r Cynllun.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu’r Cynllun Atebolrwyddau Presennol ar gyfer Ymarfer Cyffredinol (“y Cynllun”). Nid ydynt yn gymwys ond mewn perthynas â gwasanaethau a ddarperir fel rhan o’r GIG yng Nghymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2020.

Mae’r Cynllun yn ymwneud ag atebolrwyddau camweddus sy’n codi o ddigwyddiadau a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2019 ac y rhoddwyd gwybod amdanynt neu a berwyd ond na roddwyd gwybod amdanynt eto mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol a gwasanaethau gofal iechyd eraill drwy ymarfer cyffredinol fel rhan o’r GIG. Atebolrwyddau esgeuluster clinigol fydd yr atebolrwyddau a gwmpesir gan y Cynllun yn bennaf.

Mae rheoliadau 2 a 4 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau. Mae rheoliad 3 yn sefydlu’r Cynllun ac yn darparu iddo gael ei weinyddu gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 5 yn pennu pwy sy’n “person cymwys”, sef personau y caniateir bodloni eu hatebolrwyddau presennol o dan y Cynllun, ar yr amod bod yr atebolrwyddau yn atebolrwyddau y mae’r Cynllun yn gymwys iddynt. Mae hwn yn berson sy’n aelod o sefydliad amddiffyn meddygol neu a oedd, ar y dyddiad perthnasol, yn aelod o sefydliad amddiffyn meddygol a hefyd naill ai’n gontractwr Rhan 4 (person sydd wedi ei gontractio o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu i wneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol); yn is-gontractwr gwasanaethau meddygol sylfaenol (person sydd wedi ei is-gontractio gan gontractwr Rhan 4 i ddarparu’r gwasanaethau hynny); yn berson sy’n darparu gwasanaethau iechyd ategol; neu’n berson sydd wedi ei gymryd ymlaen gan unrhyw un o’r uchod i ddarparu gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau iechyd ategol neu i gyflawni gweithgaredd sy’n gysylltiedig â darparu’r gwasanaethau hynny. Y “dyddiad perthnasol” yw’r dyddiad y digwyddodd y weithred neu’r anweithred, a arweiniodd at atebolrwydd presennol, a “gwasanaethau iechyd ategol” yw gwasanaethau GIG, ac eithrio gwasanaethau meddygol sylfaenol, a ddarperir fel rhan o’r ymarfer cyffredinol gan gontractwr Rhan 4, is-gontractwr gwasanaethau meddygol sylfaenol neu berson sydd wedi ei is-gontractio gan y personau hynny i ddarparu’r gwasanaethau iechyd ategol.

Mae rheoliad 6 yn pennu’r atebolrwyddau presennol y mae’r Cynllun yn gymwys iddynt a’r dyddiad y bydd yn gymwys i’r atebolrwyddau presennol hynny ohono. Y rhain yw atebolrwyddau presennol sy’n ddyledus i drydydd parti sy’n codi o weithredoedd neu anweithredoedd sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau iechyd ategol ac sy’n achosi anaf personol neu niwed i’r trydydd parti. Cwmpesir atebolrwyddau presennol personau cymwys o dan y Cynllun pan fo Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i drefniant contractiol â sefydliad amddiffyn meddygol ac, o dan y trefniant contractiol hwnnw, mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno i ystyried darparu indemniad neu gynhorthwy yn ôl disgresiwn ar gyfer gweithredoedd neu anweithredoedd aelodau a chyn-aelodau’r sefydliad amddiffyn meddygol.

Mae gweithredoedd neu anweithredoedd cyflogeion person cymwys neu eraill, y mae person cymwys wedi eu cymryd ymlaen i gyflawni gweithgareddau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol neu wasanaethau GIG eraill ar gyfer y person cymwys neu y mae person cymwys yn caniatáu iddynt wneud hynny, hefyd wedi eu cwmpasu o dan y Cynllun.

Mae rheoliadau 7 i 10 yn darparu i daliadau gael eu gwneud o dan y Cynllun, gan gynnwys rheoliad 9 sy’n nodi o dan ba amgylchiadau y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad oes unrhyw daliad i’w wneud.

Mae rheoliad 11 yn galluogi Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i berson cymwys ddarparu gwybodaeth a chynhorthwy i Weinidogion Cymru at ddibenion y Cynllun.

Mae rheoliad 12 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi gwybodaeth ar gael i berson cymwys ynghylch cyfarwyddydau neu ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r Cynllun.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol sy’n ymwneud â’r offeryn hwn o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gyfarwyddiaeth Gofal Sylfaenol a Gwyddor Iechyd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2006 p. 42; gweler adran 206(1) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”. Mewnosodwyd is-adrannau (8) a (9) yn adran 30 gan adran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Indemniadau) (Cymru) 2020 (dccc 2).

(3)

1986 p. 45. Diwygiwyd adran 381(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986 gan Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24), adran 71(3), Atodlen 19, paragraffau 1, a 52(1) a (2).

(4)

Diwygiwyd adran 247(1) o Ddeddf Ansolfedd 1986 gan Ddeddf Menter 2002 (p. 40), adran 248(3), Atodlen 17, paragraffau 9, a 33(1) a (2).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources