Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 272 (Cy. 64)

Bywyd Gwyllt, Cymru

Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 2) (Cymru) 2020

Made

10 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Mawrth 2020

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1).

At ddibenion adran 26(4)(a) o’r Ddeddf honno, nid yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod unrhyw awdurdod lleol yn cael ei effeithio gan y Gorchymyn hwn. Yn unol â’r adran honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfle i unrhyw berson arall yr effeithir arno i gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau mewn perthynas â phwnc y Gorchymyn hwn.

Yn unol ag adran 26(4)(b) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru, sef y cyrff cynghorol(2) sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn gallu eu cynghori orau a ddylid gwneud y Gorchymyn hwn ai peidio.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 2) (Cymru) 2020, a daw i rym 21 diwrnod ar ôl y diwrnod y cafodd ei osod.

Amrywio Atodlen 2

2.  Yn Atodlen 2 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) (adar y caniateir eu lladd neu eu cymryd) yn Rhan 1 (y tu allan i’r tymor caeedig) —

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “except” hepgorer “, in England,”;

(b)yng ngholofn 2, ar ôl “except” hepgorer “, in England,”.

Lesley Griffiths

Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

10 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 1 o’r Atodlen honno yn rhestru’r adar y caniateir eu lladd neu eu cymryd y tu allan i’r tymor caeedig. Diffinnir y tymor caeedig yn adran 2(4) o’r Ddeddf.

Mae erthygl 2 yn y Gorchymyn hwn yn diwygio'r cofnod ar gyfer yr Ŵydd Dalcenwyn (Anser Albifrons) yn Rhan 1 o Atodlen 2 i’r Ddeddf, fel bod Gŵydd Dalcenwyn yr Ynys Las wedi eu heithrio o’r Atodlen honno. Effaith y diwygio hwn yw ei gwneud hi'n drosedd yng Nghymru (o dan adran 1 o'r Ddeddf) i ladd neu i gymryd (neu i niweidio yn ystod ymgais i ladd) Gŵydd Dalcenwyn yr Ynys Las y tu allan i'r tymor caeedig ar gyfer Gŵydd Dalcenwyn.”.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru (Is-adran y Tir, Natur a Choedwigaeth), Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR.

(1)

1981 p. 69. Diwygiwyd adran 22(1) gan adran 47(5) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16). Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adran 22(1) i’r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

Gweler y diffiniad o “advisory body” yn adrannau 23(3) a 27(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Sefydlwyd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur o dan adran 128(4) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (p. 43) ac mae’n parhau i fod (er iddo gael ei ailgyfansoddi) o dan adran 31 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006. Diddymwyd Cyngor Cefn Gwlad Cymru a throsglwyddwyd ei holl swyddogaethau i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru drwy Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. Cy. 2013/755 (Cy.90)). Crëwyd Corff Adnoddau Naturiol Cymru drwy Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. Cy. 2012/1903 (Cy.230)) fel y’i diwygiwyd gan O.S. Cy. 2013/755 (Cy.90).