- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “ardal heintiedig” (“infected area”) yw unrhyw ardal (gan gynnwys gwlad) y mae‘r Ysgrifennydd Gwladol wedi datgan, drwy hysbysiad a gyhoeddir ar www.gov.uk, fel ardal lle y gwyddys neu y tybir bod Coronafeirws yn cael ei drosglwyddo’n gyson o fod dynol i fod dynol, neu y mae risg uchel y caiff haint neu halogiad (â Choronafeirws) eu mewnforio drwy deithio o’r ardal honno i’r Deyrnas Unedig;
ystyr “Coronafeirws” (“Coronavirus”) yw Coronafeirws y syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) sy’n achosi’r clefyd a elwir yn “COVID-19”;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984;
ystyr “gofynion ynglŷn â sgrinio” (“screening requirements”) yw’r gofynion a nodir yn rheoliad 6(1);
ystyr “Iechyd Cyhoeddus Cymru” (“Public Health Wales”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru(1);
ystyr “oedolyn cyfrifol” (“responsible adult”), mewn perthynas â phlentyn, yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989(2)) neu berson sydd â’r plentyn o dan ei warchodaeth neu ei ofal am y tro;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed;
ystyr “swyddog iechyd cyhoeddus” (“public health officer”) yw ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig neu berson sy’n gweithio o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru o dan oruchwyliaeth ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig;
ystyr “swyddog meddygol” (“medical officer”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig a ddynodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru;
ystyr “ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig” (“registered public health consultant”) yw ymgynghorydd iechyd cyhoeddus a gofrestrwyd yn broffesiynol ac sy’n gweithio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru;
ystyr “ynysu” (“isolation”) mewn perthynas â pherson yw gwahanu’r person hwnnw oddi wrth unrhyw berson arall mewn modd sy’n atal heintio neu halogi (â Choronafeirws)—
mewn cyfleuster a ddynodir, drwy hysbysiad a gyhoeddir ar www.llyw.cymru, at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Weinidogion Cymru;
yng nghartref y person hwnnw;
mewn ysbyty;
mewn man addas arall.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at haint neu halogiad(3), sut bynnag y’i mynegir, yn gyfeiriad at haint neu halogiad â Choronafeirws, ac mae ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol â hynny.
(3) Mae i ymadroddion Saesneg eraill a’r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 1984 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno.
(4) Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y diffiniad o “ynysu” ym mharagraff (1) gael ei ddilyn, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drwy gyhoeddi’r hysbysiad yn y London Gazette ac mewn o leiaf un papur newydd sy’n cylchredeg yng Nghymru.
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru gan O.S. 2009/2058 (Cy. 177).
Gweler adran 45A o Ddeddf 1984 i gael y dehongliad o “infection” a “contamination”. Mewnosodwyd adran 45A gan adran 129 o Ddeddf 2008.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: