Gosod cyfyngiadau a gofynion5

1

Pan fo Amod A neu B (a nodir yn rheoliad 4) wedi ei fodloni mewn perthynas â pherson (“P”), caiff Gweinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig—

a

(ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P neu mewn perthynas â P un neu ragor o ofynion ynglŷn â sgrinio i lywio asesiad, gan Weinidogion Cymru neu ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig, ynghylch a yw P yn cyflwyno risg o heintio neu halogi eraill neu a allai beri risg o heintio neu halogi eraill,

b

cyflawni asesiad o’r fath mewn perthynas â P, ac

c

yn dilyn asesiad o’r fath, (ar lafar neu mewn ysgrifen) osod ar P neu mewn perthynas â P unrhyw gyfyngiad neu ofyniad arall y mae Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion dileu neu leihau’r risg y cyfeirir ati yn is-baragraff (a), gan gynnwys cyfyngiad neu ofyniad arbennig5.

2

Dim ond os bydd Gweinidogion Cymru neu, yn ôl y digwydd, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig yn ystyried, wrth wneud y penderfyniad, fod y cyfyngiad neu’r gofyniad yn gymesur â’r hyn y ceisir ei gyflawni drwy ei osod y caniateir gwneud penderfyniad i osod cyfyngiad neu ofyniad o dan baragraff (1).

3

Caniateir i gyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan baragraff (1)—

a

gan Weinidogion Cymru gael ei amrywio (ar lafar neu mewn ysgrifen) gan Weinidogion Cymru;

b

gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig gael ei amrywio (ar lafar neu mewn ysgrifen) gan Weinidogion Cymru neu gan ymgynghorydd iechyd cyhoeddus cofrestredig.

4

Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad o dan baragraff (1)(c) ar blentyn neu mewn perthynas â phlentyn, rhaid i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn sicrhau bod y plentyn yn cydymffurfio â’r cyfyngiad neu’r gofyniad, i’r graddau y mae’n rhesymol i’r person hwnnw allu gwneud hynny.

5

Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad ar lafar ar berson o dan y rheoliad hwn, neu pan gaiff cyfyngiad neu ofyniad a osodir o dan y rheoliad hwn ei amrywio ar lafar, rhaid darparu i’r person (neu, yn achos plentyn, i berson sy’n oedolyn cyfrifol mewn perthynas â’r plentyn) hysbysiad ysgrifenedig o’r cyfyngiad neu’r gofyniad a osodwyd neu a amrywiwyd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

6

Pan osodir cyfyngiad neu ofyniad arbennig o dan baragraff (1)(c), rhaid i’r person sy’n gosod y cyfyngiad neu’r gofyniad ddatgan ei fod yn ddibynnol ar y ffaith bod mynychder neu drosglwyddiad Coronafeirws yn fygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd fel y cyfeirir ato yn rheoliad 3.

7

Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar arfer unrhyw un neu ragor o bwerau yn rhinwedd rheoliad 8.