Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.

(2Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020 yn union ar ôl i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020(1) ddod i rym.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(2).

Diwygioʼr Prif Reoliadau

2.—(1Mae’r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 30 (adroddiad darpar fabwysiadydd), ym mharagraff (2)(d), ar ôl “plentyn” mewnosoder “, ac wrth benderfynu ar addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn rhaid iʼr asiantaeth roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas”.

(3Yn Atodlen 4A (addasu Rhan 4), ym mharagraff 4(b), ym mharagraff (2)(ch) sydd wedi ei amnewid, ar ôl “plentyn” mewnosoder “, ac wrth benderfynu ar addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn rhaid iʼr asiantaeth roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Mawrth 2020