Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwnaed yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu, neu pan fo toriad am fwy na phedwar diwrnod.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 334 (Cy. 76)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020

Gwnaed

am 10.00 p.m. ar 23 Mawrth 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Mawrth 2020

Yn dod i rym

am 12.00 pm. ar 24 Mawrth am 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1), 45C(3)(c), 45C(4)(d), 45F(2) a 45P o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Gwneir y Rheoliadau mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(1)

1984 p. 22 (“Deddf 1984”). Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hynny wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog Priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog Priodol o ran Cymru yw Gweinidogion Cymru.