Gofyniad i gau rhai llwybrau troed cyhoeddus a thir mynediad yn ystod yr argyfwng

4.—(1Os yw paragraff (1) yn gymwys i lwybr troed neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol —

(a)gau y llwybr troed neu’r tir mynediad erbyn 12.00 y.h. ar 25 Mawrth 2020, a

(b)ei gadw ar gau nes ei fod o’r farn nad yw cau mwyach yn angenrheidiol i atal, amddiffyn rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd cyhoeddus i fynychder neu ymlediad haint yn ei ardal gyda’r coronafeirws.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau troed a’r tir mynediad yn ei ardal mae awdurdod perthnasol yn ystyried—

(a)sydd â thuedd i niferoedd mawr o bobl yn ymgasglu arnynt neu i fod yn agos at ei gilydd arnynt, neu

(b)mae’r defnydd ohono’n peri risg uchel fel arall i fynychder neu ymlediad haint yn ei ardal gyda’r coronafeirws.

(3Rhaid i’r awdurdod perthnasol gyhoeddi rhestr o lwybrau troed neu dir mynediad sydd wedi ei gau yn ei ardal ar wefan.

(4At ddibenion y rheoliad hwn —

(a)mae cyfeiriadau at lwybr troed yn cynnwys llwybr ceffylau, a

(b)mae cyfeiriadau at lwybr troed neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr troed neu dir mynediad.

(5Yn y rheoliad hwn —

(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw —

(i)Cyngor Sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru,

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,

(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu

(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

(b)mae i “llwybr troed” a “llwybr ceffylau” yr un ystyr â roddir i “footpath” a “bridleway” (yn eu trefn) yn adran 329 (1) o Ddeddf Priffyrdd 1980;

(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad ato yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ond heblaw hynny mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1 (1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.