xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Rheoliad 2

YR ATODLENLL+CY busnesau y mae’n rhaid iddynt gau

RHAN 1LL+CMATH O FUSNES

1.  Safleoedd gwyliau.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. para. 1 mewn grym ar 24.3.2020 am 12.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

2.  Safleoedd gwersylla.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. para. 2 mewn grym ar 24.3.2020 am 12.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

3.  Arcêdau difyrion.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. para. 3 mewn grym ar 24.3.2020 am 12.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

4.  Canolfannau chwarae dan do.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. para. 4 mewn grym ar 24.3.2020 am 12.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CDEHONGLI

5.—(1Yn yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru y mae cartref symudol wedi ei leoli arno at ddibenion bod yn gartref i berson (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir) y mae’r caniatâd cynllunio mewn cysylltiad ag ef, neu y mae trwydded y safle ar gyfer y tir—LL+C

(a)wedi ei ddatgan i’w roi at ddiben ei ddefnyddio ar gyfer gwyliau yn unig, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan ni chaniateir lleoli unrhyw gartref symudol ar y safle i fod yn gartref i berson.

(2At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, anwybyddir unrhyw ddarpariaeth o’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn os awdurdodir y cartref i’w feddiannu gan —

(a)y person sy’n berchennog ar y safle, neu

(b)person a gyflogir gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gymw

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. para. 5 mewn grym ar 24.3.2020 am 12.00 p.m., gweler rhl. 1(1)