YR ATODLENY busnesau y mae’n rhaid iddynt gau
RHAN 1MATH O FUSNES
1
Safleoedd gwyliau.
2
Safleoedd gwersylla.
3
Arcêdau difyrion.
4
Canolfannau chwarae dan do.
RHAN 2DEHONGLI
5
1
Yn yr Atodlen hon, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru y mae cartref symudol wedi ei leoli arno at ddibenion bod yn gartref i berson (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir) y mae’r caniatâd cynllunio mewn cysylltiad ag ef, neu y mae trwydded y safle ar gyfer y tir—
a
wedi ei ddatgan i’w roi at ddiben ei ddefnyddio ar gyfer gwyliau yn unig, neu
b
yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan ni chaniateir lleoli unrhyw gartref symudol ar y safle i fod yn gartref i berson.
2
At ddibenion penderfynu a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, anwybyddir unrhyw ddarpariaeth o’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn os awdurdodir y cartref i’w feddiannu gan —
a
y person sy’n berchennog ar y safle, neu
b
person a gyflogir gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn gymw