2020 Rhif 340 (Cy. 77)

Caffael Tir, CymruDigolledu, Cymru

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Digollediad Tir 19731 ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru2.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 27 Ebrill 2020.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973;

  • mae i “taliad colli cartref” yr ystyr a roddir i “home loss payment” gan adran 29(1) o’r Ddeddf.

Diwygio symiau rhagnodedig y taliad colli cartref2

Pan fo dyddiad y dadleoli ar 27 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny—

a

£62,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf,

b

£6,200 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf, ac

c

£6,200 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.

Dirymu ac arbed3

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 20183 wedi eu dirymu.

2

Bydd y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 27 Ebrill 2020.

Julie JamesY Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sy’n meddiannu annedd sydd â buddiant perchennog. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref.

Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn pennu swm y taliad colli cartref sy’n ddyledus mewn unrhyw achos arall.

Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £59,000 i £62,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £5,900 i £6,200.

Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref sy’n ddyledus o dan adran 30(2) o’r Ddeddf o £5,900 i £6,200.

Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 27 Ebrill 2020 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3 yn dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2018.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.