xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
40.—(1) Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A yw—
(a)4 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu
(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
(3) Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B yw—
(a)2 ddiwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu
(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (4).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo’r erthygl hon yn gymwys mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
(5) At ddibenion y fformwla ym mharagraffau (2) a (4), DWEW yw nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol wedi ei gyfrifo yn unol ag erthygl 30 neu 31 (fel y bo’n briodol).
(6) Pan fo’r cyfrifiad ym mharagraff (2) neu (4) yn arwain at hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth o lai nag 1 diwrnod, mae’r hawl i’w thalgrynnu i fyny i un diwrnod cyfan.
(7) O dan amgylchiadau pan fo mwy nag un gyflogaeth gan weithiwr amaethyddol (boed gyda’r un cyflogwr neu gyda chyflogwyr gwahanol), caniateir cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl mewn cysylltiad â mwy nag un gyflogaeth ond ni chaiff, mewn cysylltiad ag unrhyw un brofedigaeth, fod yn fwy nag uchafswm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth a bennir ar gyfer un gyflogaeth yn yr erthygl hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 40 mewn grym ar 1.4.2020, gweler ergl. 1