Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/07/2020.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Help about Changes to Legislation

Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a deuant i rym am 4.00p.m. ar 26 Mawrth 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan—

(i)bo hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1),

(ii)bo’r gofal yn rhan o’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu

(iii)bo’r gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(2);

(b)ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

[F1(ba)ystyr “athletwr elît” yw unigolyn sydd wedi ei ddynodi felly at ddibenion y Rheoliadau hyn gan Gyngor Chwaraeon Cymru;]

(c)ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(d)mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;

[F2(da)mae “mangre” yn cynnwys unrhyw adeilad neu strwythur ac unrhyw dir;]

(e)mae “person hyglwyf” yn cynnwys—

(i)unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;

(ii)unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol, gan gynnwys y cyflyrau a restrir yn Atodlen 2, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;

(iii)unrhyw berson sy’n feichiog.

[F3(iv)unrhyw blentyn;

(v)unrhyw berson sy’n oedolyn hyglwyf o fewn yr ystyr a roddir i “vulnerable adult” gan adran 60(1) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2).]

[F4(4) At ddibenion y diffiniad o “athletwr elît” ym mharagraff (3)—

(a)nid yw unigolyn wedi ei ddynodi gan Gyngor Chwaraeon Cymru onid yw’r unigolyn wedi ei enwebu am ddynodiad gan gorff camp perthnasol a bod y Cyngor wedi derbyn yr enwebiad, a

(b)ystyr “corff camp perthnasol” yw corff llywodraethu cenedlaethol camp a gaiff enwebu athletwyr i gynrychioli—

(i)Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn y Gemau Olympaidd neu’r Gemau Paralympaidd, neu

(ii)Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.

(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)mae person yn cymryd rhan cynulliad os yw’r person hwnnw yn ymgynnull ag un neu ragor o bersonau eraill yn yr un man er mwyn gwneud rhywbeth gyda’i gilydd;

(b)mae mangre o dan do os yw’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(2).]

[F5(6) Os yw dwy aelwyd yn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio ym mharagraffau (7) ac (8)) at “aelwyd” i’w ddehongli fel petai’n cynnwys y ddwy aelwyd.

(7) Er mwyn cytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig rhaid i bob oedolyn ar y ddwy aelwyd gytuno.

(8) Ond—

(a)dim ond gydag un aelwyd arall y caiff aelwyd gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd estynedig, a

(b)os yw’r ddwy aelwyd yn peidio â chytuno i gael eu trin fel un aelwyd estynedig, ni chaiff y naill aelwyd na’r llall gytuno i gael ei thrin fel un aelwyd o dan baragraff (6) gydag unrhyw aelwyd arall.]

DirymuLL+C

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cau Busnes) (Cymru) 2020(3) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) 2020(4) wedi eu dirymu.

(2Er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny, maent yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd oddi tanynt cyn y daeth y Rheoliadau hyn i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Cyfnod yr argyfwng ac adolygu’r angen am gyfyngiadauLL+C

3.—(1At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “cyfnod yr argyfwng”—

(a)yn dechrau pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, a

(b)yn gorffen mewn perthynas â gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar y [F6y cynharaf o’r canlynol—

(i)dirymu’r ddarpariaeth sy’n gosod y gofyniad neu’r cyfyngiad, neu

(ii)pan ddaw’r Rheoliadau hyn i ben o dan reoliad 15.]

(2Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am gyfyngiadau a gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn [F7, a pha un a yw’r cyfyngiadau a’r gofynion hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt,] bob 21 o ddiwrnodau, gyda’r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal erbyn 16 Ebrill 2020.

F8(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F9(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F10(4A. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F11(5. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwngLL+C

4.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)cau unrhyw fangre, neu ran o’r fangre, lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno;

(b)peidio â gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn ei fangre (ond os yw’r busnes yn gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, caiff barhau i wneud hynny yn ddarostyngedig i reoliad [F126(2)].

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw bwyd neu ddiod a werthir gan westy neu lety arall fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu neu ei gwerthu i’w fwyta neu i’w hyfed yn ei fangre.

(3At ddibenion paragraff (1), mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng, beidio â chynnal y busnes hwnnw neu ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.

(5Ond nid yw paragraff (4) yn atal y defnydd—

(a)o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir ym mharagraffau 5, 6, 7, 8, 9, 10 neu 18 o Ran 2 [F13o Atodlen 1] i ddarlledu (heb gynulleidfa) berfformiad (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);

[F14(b)o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1 at unrhyw ddiben y mae Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn gofyn amdano;]

[F15(ba)o fangre ar gyfer hyfforddi athletwyr elît, gan gynnwys canolfannau sglefrio, pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd o dan do, campfeydd, canolfannau hamdden o dan do a chyfleusterau chwaraeon eraill (boed o dan do neu yn yr awyr agored);]

(c)o fangre a ddefnyddir fel amgueddfa [F16neu oriel], neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau archifau, ar gyfer darparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys F17... drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.

[F18(5A) Mae paragraff (5B) yn gymwys—

(a)i fangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), (b) neu (c) o baragraff 2 o Atodlen 1, neu

(b)pan fo mangre a ddefnyddir i gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio at ddiben a grybwyllir ym mharagraff (5).

(5B) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes neu ddarparu’r gwasanaeth, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).]

(6Os yw busnes a restrir yn Atodlen 1 (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) neu (4) os yw’n cau busnes A i lawr.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng: darpariaeth benodol ynghylch llety gwyliau etc.LL+C

5.—(1I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i safle gwyliau neu safle gwersylla (yn rhinwedd ei restru yn Rhan 3 o Atodlen 1), mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes (“P”) yn cynnwys rhwymedigaeth ar P i wneud ei orau glas i sicrhau fod unrhyw berson sy’n aros ar y safle pan yw’r busnes wedi peidio â chael ei gynnal yn gadael y fangre.

(2Ond nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol ar safle gwyliau i’w fyw ynddo gan bobl o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(5) yn gymwys iddo.

[F19(3) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

(a)na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu

(b)sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa.

(3A) I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i fusnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—

F20(a). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(b)i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post.]

[F21(3B) Mae paragraff (3C) yn gymwys pan fo mangre a ddefnyddir ar gyfer busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio—

(a)i ddarparu llety yn unol â pharagraff (3), neu

(b)i gynnal y busnes yn unol â pharagraff (3A).

(3C) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).]

(4Yn y rheoliad hwn ac yn Rhan 3 o’r Atodlen, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

(a)wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

(5At ddibenion penderfynu pa un a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

(a)y person sy’n berchennog y safle, neu

(b)person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013(6) yn gymwys iddo.

[F22Cyfyngiad cyffredinol ar siopau a busnesau a gwasanaethau penodol eraillLL+C

6.(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)i berson (“P”) sy’n gyfrifol am gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1, a

(b)mewn cysylltiad ag unrhyw fangre lle y cynhelir y busnes neu lle y darperir y gwasanaeth.

(2) Rhaid i P gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Cyfyngiad cyffredinol ar fannau gwaithLL+C

6A.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am waith a gyflawnir mewn mangre lle mae person yn gweithio, pan yw gwaith o’r fath yn cael ei gyflawni yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre—

(a)a ddefnyddir i gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Atodlen 1, F23...

F23. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Cyfyngiadau ar fannau addoli, amlosgfeydd [F24, mynwentydd] a chanolfannau cymunedol,LL+C

7.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fan addoli sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod y man addoli ar gau, ac eithrio at ddefnydd a ganiateir gan baragraff (2).

(2Os [F25cymerir] pob [F26mesur] rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn y man addoli [F27(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)] , caniateir defnyddio’r man—

[F28(za)i weinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil,]

(a)ar gyfer angladdau,

[F29(aa)ar gyfer gweddïo gan—

(i)unigolyn,

(ii)aelodau o’r un aelwyd, neu

(iii)unigolyn a gofalwr yr unigolyn,

nad yw’n rhan o gydaddoli,]

[F30(b) ddarlledu (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu)—

(ii)gweinyddu priodas neu ffurfio partneriaeth sifil F31...;

(iii)angladd, neu ]

(c)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol neu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus F32....

(3Rhaid i berson sy’n gyfrifol am amlosgfa sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod yr amlosgfa ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer at y defnydd a ganiateir gan baragraff (4).

(4Os [F25cymerir] pob [F26mesur] rhesymol F33... i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn yr amlosgfa [F34(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)] , caiff yr amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd am angladdau neu gladdu (a darlledu angladd neu gladdu boed dros y rhyngrwyd neu fel arall).

[F35(4ZA) Nid yw paragraff (3) yn gymwys i’r tir o amgylch amlosgfa, gan gynnwys unrhyw gladdfa neu ardd goffa.]

[F36(4A) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fynwent gymryd pob [F26mesur] rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person mewn claddedigaeth sy’n digwydd yn y fynwent yn ystod cyfnod yr argyfwng (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).]

(5Rhaid i berson sy’n gyfrifol am ganolfan gymunedol sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod y ganolfan gymunedol ar gau ac eithrio—

(a)pan fo’n cael ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol neu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus F37...

(b)os [F25cymerir] pob [F26mesur] rhesymol F38... i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn y fangre [F39(ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr)] tra darperir y gwasanaethau hynny.

[F40(6) At ddiben y rheoliad hwn—

(a)mae “claddu” yn cynnwys rhoi lludw person marw yn y ddaear;

(b)mae “mynwent” yn cynnwys claddfa ac unrhyw fan arall sydd sy’n cael ei ddefnyddio i gladdu’r meirw.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

[F41Canllawiau ar gynnal pellter o 2 fetr rhwng personauLL+C

7A.(1) Rhaid i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad yn—

(a)rheoliad 4(1) fel y mae’n gymwys i ffreuturau yn y gweithle,

[F42(aa)rheoliad 4(5B),

(ab)rheoliad 5(3C),]

[F43(b)rheoliad 6(2),]

(c)rheoliad 6A(1), neu

(d)rheoliad 7(1), (3), (4A) neu (5),

roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch y [F44mesurau] rhesymol sydd i’w cymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau.

(2) O ran Gweinidogion Cymru—

(a)cânt ddiwygio canllawiau a ddyroddir o dan baragraff (1), a

(b)rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau (ac unrhyw ddiwygiadau).

(3) Caiff canllawiau o dan y rheoliad hwn gynnwys (drwy gyfeirio neu drosi) ganllawiau, codau ymarfer neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan berson arall (er enghraifft, cymdeithas fasnach, corff sy’n cynrychioli aelodau o ddiwydiant neu undeb llafur).]

Cyfyngiadau ar symud a bod o dan do yn ystod cyfnod yr argyfwngLL+C

[F458.(1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol—

(a)ymgynnull yn yr awyr agored gydag unrhyw berson arall oni bai am—

(i)aelodau o’i aelwyd neu aelodau o ddim mwy nag un aelwyd arall,

(ii)gofalwr iddo, neu

(iii)person y mae’n darparu gofal iddo;

(b)ymgynnull mewn mangre o dan do gydag unrhyw berson arall oni bai am—

(i)aelodau o’i aelwyd,

(ii)gofalwr iddo, neu

(iii)person y mae’n darparu gofal iddo.

(2) Mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol—

(a)cael cynhorthwy meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu gael gafael ar wasanaethau milfeddygol;

(b)darparu neu gael gofal neu gynhorthwy, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, pan fo’r person sy’n cael y gofal yn berson hyglwyf;

(c)darparu neu gael cynhorthwy brys;

(d)rhoi gwaed;

(e)gweithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol;

(f)pan fo’r person yn athletwr elît, hyfforddi neu gystadlu;

(g)mynd i weinyddiad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil—

(i)fel parti i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil,

(ii)os caiff ei wahodd i fynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r briodas neu’r bartneriaeth sifil.

(h)mynd i angladd—

(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd;

(i)cyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(j)cael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol neu gael y gwasanaethau hynny, gan gynnwys —

(i)gofal plant neu wasanaethau addysgol;

(ii)gwasanaethau cymdeithasol;

(iii)gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;

(iv)gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);

(k)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw ar yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, parhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(l)symud cartref;

(m)paratoi eiddo preswyl i bersonau symud i mewn;

(n)ymgymryd â’r gweithgareddau a ganlyn mewn cysylltiad â phrynu, gwerthu, gosod neu rentu eiddo preswyl nad yw wedi ei feddiannu—

(i)ymweld ag asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr neu gartrefi arddangos;

(ii)gweld eiddo o’r fath;

(o)cymryd rhan mewn gweithgareddau a drefnir gan atyniadau awyr agored;

(p)osgoi anaf neu salwch neu ddianc rhag risg o niwed.

(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ddigartref.

(4) At ddibenion paragraff (2)(q), nid yw eiddo wedi ei feddiannu os nad oes unrhyw berson yn meddiannu’r eiddo fel preswylfa.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

[F46Gofyniad i barhau i weithio gartref pan fo’n ymarferolLL+C

8A.(1) Yn ystod cyfnod yr argyfwng, o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ni chaiff unrhyw berson adael y man lle y mae’n byw, neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol.

(2) Yr amgylchiadau yw ei bod yn rhesymol ymarferol i’r person weithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol o’r man lle y mae’n byw.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.]

Diwygiadau Testunol

Cyfyngiadau ar ymgynnull â phersonau eraillLL+C

F478B.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Gofyniad i gau llwybrau cyhoeddus a thir penodol a pheidio â mynd iddynt yn ystod cyfnod yr argyfwngLL+C

9.—(1Pan fo paragraff (2) yn gymwys i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)cau’r llwybr cyhoeddus neu’r tir mynediad, a

(b)ei gadw ar gau tan y cynharaf o’r canlynol—

(i)diwedd cyfnod yr argyfwng, neu

(ii)yr adeg pan yw’r awdurdod yn ystyried nad yw’r cau yn angenrheidiol i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau cyhoeddus a’r tir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol y mae’n ystyried —

(a)eu bod yn debygol o ddenu niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd, neu

(b)bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel i fynychder a lledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.

(3Pan fo llwybr cyhoeddus wedi ei gau o dan reoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad)(Cymru) 2020(7), mae’r llwybr i’w drin fel pe bai wedi ei gau o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.

(4Ni chaiff unrhyw un ddefnyddio llwybr troed neu dir mynediad sydd ar gau yn rhinwedd paragraff (1) oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol.

(5Rhaid i’r awdurdod perthnasol—

(a)cyhoeddi rhestr o lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn ei ardal ar wefan;

(b)codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd bod llwybr cyhoeddus neu dir mynediad ar gau.

(6At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad.

(7Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “awdurdod perthnasol” yw—

(i)awdurdod lleol,

(ii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,

(iii)Cyfoeth Naturiol Cymru, neu

(iv)yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;

(b)ystyr “llwybr cyhoeddus” yw llwybr troed, llwybr ceffylau, cilffordd, cilffordd gyfyngedig neu lwybr beiciau ac

(i)mae i “llwybr troed”, “llwybr ceffylau” a “llwybr beiciau” yr un ystyr â “footpath”, “bridleway” a “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(8);

(ii)ystyr “cilffordd” yw cilffordd sydd ar agor i bob traffig o fewn yr ystyr a roddir i “bridleway open to all traffic” gan adran 66(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(9);

(iii)mae i “cilffordd gyfyngedig” yr ystyr a roddir i “restricted byway” gan adran 48(4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(10);

(c)mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(11).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

GorfodiLL+C

10.—(1Caiff person perthnasol roi hysbysiad gwahardd i berson F48...—

(a)[F49os oes gan y person perthnasol sail resymol dros amau] bod y person yn torri gofyniad yn rheoliad 4, [F505(3C),] 6 [F51, 6A] neu 7, a

(b)[F52os yw’r person perthnasol yn ystyried] ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur rhoi’r hysbysiad gwahardd at ddiben atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.

F53(2. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F53(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F53(4. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(5At ddibenion y rheoliad hwn, [F54mae gan unigolyn gyfrifoldeb am blentyn os oes gan yr unigolyn]

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989).

F55(6. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(7Pan fo gan berson perthnasol sail resymol dros amau bod pobl yn ymgynnull yn groes i reoliad [F568(1)], caiff y person perthnasol—

(a)cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;

(b)cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;

(c)mynd ag unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.

[F57(8) Caiff person perthnasol sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (7)—

(a)i gyfarwyddo cynulliad i wasgaru, neu

(b)i fynd â pherson i’r man lle y mae’n byw,

ddefnyddio grym rhesymol, os yw’n angenrheidiol, wrth arfer y pŵer.

(8A) Pan fo gan berson perthnasol sail resymol dros amau bod person (“P”) mewn cynulliad yn groes i reoliad [F588(1)] a’i fod yn blentyn gydag unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros P—

(a)caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a

(b)rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.

(8B) Ni chaiff person perthnasol arfer pŵer ym mharagraff (7) neu (8A) ond os yw’r person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny.]

(9[F59Os yw person perthnasol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur at ddibenion atal, neu derfynu, torri rheoliad 9(4), caiff y person perthnasol] symud unigolyn o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 9(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 9(1), a chaiff defnyddio grym rhesymol [F60, os yw’n angenrheidiol,] i wneud hynny.

(10Caiff person perthnasol gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir ar y person gan y rheoliad hwn neu reoliad 11 [F61(gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth o ran a yw dwy aelwyd wedi ymrwymo i gytundeb yn unol â rheoliad 1(6))].

(11At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13, ystyr “person perthnasol” yw—

(a)cwnstabl,

(b)swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,

(c)person sydd wedi ei ddynodi gan—

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)awdurdod lleol

(iii)awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu

(iv)Cyfoeth Naturiol Cymru,

at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13 (ond gweler paragraffau (12) ac (13)).

(12Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thoriad (neu doriad honedig) gofyniad yn rheoliad 4, [F625(3C),] 6, [F636A,] 7 neu 9(4) yn unig.

(13Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod Parc Cenedlaethol neu Cyfoeth Naturiol Cymru arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thorri’r gofyniad yn rheoliad 9(4) (neu doriad honedig ohono).

(14Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 11 a 12, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Pŵer mynd i mewnLL+C

11.—(1Caiff person perthnasol fynd i fangre—

(a)os oes gan y person perthnasol sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael, neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a

(b)os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.

(2Caiff person perthnasol sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—

(a)defnyddio grym rhesymol i fynd i’r fangre os yw’n angenrheidiol;

(b)cymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn briodol.

(3Rhaid i berson perthnasol sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—

(a)os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r person perthnasol ac amlinellu y diben yr arferir y pŵer ato;

(b)os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y person perthnasol iddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Troseddau a chosbauLL+C

12.—(1Mae person sydd—

(a)heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 4, 5(3C), 6, 6A, 7, [F648A, F65...] neu 9(4), neu

(b)yn [F66torri gofyniad yn rheoliad 8(1)],

yn cyflawni trosedd.

(2Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(3Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri cyfarwyddyd, neu’n methu â chydymffurfio â chyfarwyddiad neu hysbysiad gwahardd, a roddir gan berson perthnasol o dan reoliad 10 yn cyflawni trosedd.

(4Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.

(5Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(12) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel petai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—

(a)i gynnal iechyd y cyhoedd;

(b)i gynnal trefn gyhoeddus.

(6Os profir bod trosedd o dan baragraff (1) wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig—

(a)wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw,

mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.

(8Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.

(9Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei dwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.

(10Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(13) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(14) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys i gorff corfforedig.

(11Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth.

(12Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.

Diwygiadau Testunol

F64Text here

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

13.—(1Caiff person perthnasol ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r person perthnasol yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a

(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i [F67] .

[F68(2A) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).]

(3[F69Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo] fod yr awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yn yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.

(4Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(5Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu’r drosedd;

(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig;

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(6Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff 5(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8)).

(7Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.

(8Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn [F70

(a)nid yw paragraff (7) yn gymwys, a

(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—

(i)yn £120 yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(ii)yn £240 yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(iii)yn £480 achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(iv)yn £960 yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(v)yn £1920 yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig olynol.]

(9Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(10Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (9), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(11Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb am faterion ariannol [F71

(i)yr awdurdod lleol, neu

(ii)y person a ddynodir o dan baragraff (2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a]

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

(12Pan ddyroddir cosb benodedig mewn perthynas â’r drosedd honedig o dorri’r gofyniad yn rheoliad 9(4), mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “awdurdod lleol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.

ErlynLL+C

14.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Dod i benLL+C

15.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 2.45 p.m. ar 26 Mawrth 2020

Back to top

Options/Help