Enwi, dod i rym, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a deuant i rym am 4.00p.m. ar 26 Mawrth 2020.
2
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
a
ystyr “gofalwr” yw person sy’n darparu gofal ar gyfer y person a gynorthwyir pan—
i
bo hawlogaeth gan y gofalwr i asesiad o dan adran 24 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20142,
ii
bo’r gofal yn rhan o’r ddarpariaeth o wasanaethau gofal cymunedol o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, neu
iii
bo’r gofal wedi ei ddarparu gan ddarparwr gofal sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20163;
b
ystyr “coronafeirws” yw coronafeirws syndrom anadlu acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
c
ystyr “awdurdod lleol” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
d
mae “person sy’n gyfrifol am gynnal busnes” yn cynnwys perchennog a rheolwr y busnes hwnnw;
e
mae “person hyglwyf” yn cynnwys—
i
unrhyw berson sy’n 70 oed neu’n hŷn;
ii
unrhyw berson o dan 70 oed sydd â chyflwr iechyd isorweddol, gan gynnwys y cyflyrau a restrir yn Atodlen 2, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt;
iii
unrhyw berson sy’n feichiog.
Dirymu2
1
2
Er gwaethaf dirymu’r Rheoliadau hynny, maent yn parhau mewn grym mewn perthynas ag unrhyw drosedd a gyflawnwyd oddi tanynt cyn y daeth y Rheoliadau hyn i rym.
Cyfnod yr argyfwng ac adolygu’r angen am gyfyngiadau3
1
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “cyfnod yr argyfwng”—
a
yn dechrau pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, a
b
yn gorffen mewn perthynas â gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y Rheoliadau hyn ar y diwrnod ac ar yr adeg a bennir mewn cyfarwyddyd a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru sy’n terfynu’r gofyniad neu’r cyfyngiad (gweler paragraffau (3) a (4)).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am gyfyngiadau a gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn bob 21 o ddiwrnodau, gyda’r adolygiad cyntaf yn cael ei gynnal erbyn 15 Ebrill 2020.
3
Cyn gynted ag y bo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes angen gofyniad neu gyfyngiad a osodir gan y Rheoliadau hyn mwyach i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yng Nghymru â’r coronafeirws, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cyfarwyddyd sy’n terfynu’r gofyniad neu’r cyfyngiad.
4
Caiff cyfarwyddyd a gyhoeddir o dan y rheoliad hwn—
a
terfynu unrhyw un neu ragor o ofynion neu gyfyngiadau;
b
terfynu gofyniad neu gyfyngiad mewn perthynas â busnes neu wasanaeth penodedig neu ddisgrifiad penodedig o fusnes neu wasanaeth.
5
Yn y rheoliad hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.
Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng4
1
Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng—
a
cau unrhyw fangre, neu ran o’r fangre, lle y gwerthir bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre honno;
b
peidio â gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn ei fangre (ond os yw’r busnes yn gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre, caiff barhau i wneud hynny yn ddarostyngedig i reoliad 6(1).
2
At ddibenion paragraff (1), nid yw bwyd neu ddiod a werthir gan westy neu lety arall fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu neu ei gwerthu i’w fwyta neu i’w hyfed yn ei fangre.
3
At ddibenion paragraff (1), mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddau yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.
4
Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir yn Rhan 2 neu 3 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng, beidio â chynnal y busnes hwnnw neu ddarparu’r gwasanaeth hwnnw.
5
Ond nid yw paragraff (4) yn atal y defnydd—
a
o fangre a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir ym mharagraffau 5, 6, 7, 8, 9, 10 neu 18 o Ran 2 i ddarlledu (heb gynulleidfa) berfformiad (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu);
b
o unrhyw fangre addas a ddefnyddir ar gyfer y busnesau neu’r gwasanaethau a restrir yn Rhan 2 neu 3 o’r Atodlen honno i ddarparu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus brys (gan gynnwys darparu bwyd neu gymorth arall ar gyfer y digartref neu bersonau hyglwyf, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng);
c
o fangre a ddefnyddir fel amgueddfa, oriel neu lyfrgell, neu a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau archifau, ar gyfer darparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys archebion drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post.
6
Os yw busnes a restrir yn Atodlen 1 (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (1) neu (4) os yw’n cau busnes A i lawr.
Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng: darpariaeth benodol ynghylch llety gwyliau etc.5
1
I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i safle gwyliau neu safle gwersylla (yn rhinwedd ei restru yn Rhan 3 o Atodlen 1), mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes (“P”) yn cynnwys rhwymedigaeth ar P i wneud ei orau glas i sicrhau fod unrhyw berson sy’n aros ar y safle pan yw’r busnes wedi peidio â chael ei gynnal yn gadael y fangre.
2
Ond nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol ar safle gwyliau i’w fyw ynddo gan bobl o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 20136 yn gymwys iddo.
3
I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—
a
i ddarparu llety i bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—
i
na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu
ii
sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa;
b
i gynnal y busnes, neu i gadw unrhyw fangre a ddefnyddir at y busnes yn agored, at unrhyw ddiben ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol.
4
Yn y rheoliad hwn ac yn Rhan 3 o’r Atodlen, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—
a
wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu
b
yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.
5
At ddibenion penderfynu pa un a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—
a
y person sy’n berchennog y safle, neu
b
person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 20137 yn gymwys iddo.
Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol eraill yn ystod cyfnod yr argyfwng6
1
Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes, neu am ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng—
a
cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau ym mangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
b
cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad yw personau ond yn cael mynediad i fangre’r busnes mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac
c
cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i fangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).
2
Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes, nad yw wedi ei restru yn Rhan 4 o Atodlen 1, sy’n cynnig nwyddau i’w gwerthu neu i’w llogi mewn siop, yn ystod cyfnod yr argyfwng—
a
peidio â chynnal y busnes hwnnw ac eithrio drwy wneud danfoniadau neu drwy ddarparu gwasanaethau fel arall mewn ymateb i archebion neu ymholiadau a geir—
i
drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,
ii
dros y ffôn, gan gynnwys archebion drwy neges destun, neu
iii
drwy’r post;
b
cau unrhyw fangre nad yw’n ofynnol i gynnal y busnes neu i ddarparu gwasanaethau fel a ganiateir gan is-baragraff (a);
c
peidio â rhoi mynediad i unrhyw berson i’r fangre nad yw’n ofynnol i gynnal y busnes neu i ddarparu gwasanaethau fel a ganiateir gan is-baragraff (a).
3
Os yw busnes y mae paragraff (2) yn gymwys iddo (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (2) os yw’n peidio â chynnal busnes A.
Cyfyngiadau ar fannau addoli, amlosgfeydd a chanolfannau cymunedol,7
1
Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fan addoli sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod y man addoli ar gau, ac eithrio at ddefnydd a ganiateir gan baragraff (2).
2
Os cymrir pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn y man addoli, caniateir defnyddio’r man—
a
ar gyfer angladdau,
b
i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred o addoli neu angladd (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu), neu
c
i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol neu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus brys (gan gynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer y digartref neu bobl hyglwyf, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng).
3
Rhaid i berson sy’n gyfrifol am amlosgfa sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod yr amlosgfa ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer at y defnydd a ganiateir gan baragraff (4).
4
Os cymrir pob cam rhesymol wedi ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn yr amlosgfa, caiff yr amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd am angladdau neu gladdu (a darlledu angladd neu gladdu boed dros y rhyngrwyd neu fel arall).
5
Rhaid i berson sy’n gyfrifol am ganolfan gymunedol sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod y ganolfan gymunedol ar gau ac eithrio—
a
pan fo’n cael ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol neu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus brys (gan gynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer y digartref neu bersonau hyglwyf, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng), a
b
os cymrir pob cam rhesymol wedi ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn y fangre tra darperir y gwasanaethau hynny.
Cyfyngiadau ar symud a chynulliadau yn ystod cyfnod yr argyfwng8
1
Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson adael y man lle y mae’n byw heb esgus rhesymol.
2
At ddibenion paragraff (1), mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen—
a
i gael, oddi wrth unrhyw fusnesau a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1—
i
angenrheidiau sylfaenol, gan gynnwys bwyd a chyflenwadau meddygol i’r rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;
ii
cyflenwadau (gan gynnwys arian) ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad yr aelwyd, neu aelwyd y person hyglwyf, neu i gael arian;
b
i wneud ymarfer corff, ddim mwy nag unwaith y dydd, naill ai ar ei ben ei hun neu gydag aelodau eraill o’i aelwyd;
c
i geisio cymorth meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu i gael mynediad at wasanaethau milfeddygol;
d
i ddarparu gofal neu gymorth, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 20068, i berson hyglwyf, neu i ddarparu cymorth brys;
e
i roi gwaed;
f
i deithio at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw weithio, neu ddarparu’r gwasanaethau hynny, o’r man lle y mae’n byw;
g
i fynd i angladd—
i
aelod o aelwyd y person,
ii
aelod agos o’r teulu (gan gynnwys partner, plentyn, llysblentyn neu blentyn maeth, neu riant),
iii
ffrind, os nad yw unrhyw aelod o aelwyd yr ymadawedig neu unrhyw aelod o deulu agos yr ymadawedig yn mynd, neu
iv
fel gofalwr person sy’n mynd fel person a grybwyllir yn is-baragraff (i), (ii) neu (iii);
h
i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;
i
i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, gan gynnwys—
i
gofal plant neu gyfleusterau addysgol (pan fo’r rhain yn dal i fod ar gael i blentyn y person);
ii
gwasanaethau cymdeithasol;
iii
gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;
iv
gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);
j
mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, i barhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;
k
yn achos gweinidog yr efengyl neu arweinydd addoli, i fynd i’w fan addoli;
l
i symud tŷ pan fo’n angenrheidiol;
m
i osgoi anaf neu salwch neu i ddianc rhag risg o newid.
3
At ddibenion paragraff (1), mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.
4
Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.
5
Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad mewn man cyhoeddus o fwy na dau berson ac eithrio—
a
pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd,
b
pan fo’r cynulliad yn hanfodol at ddibenion gwaith,
c
i fynd i angladd, neu
d
pan fo’n angenrheidiol—
i
i hwyluso symud tŷ,
ii
i ddarparu gofal neu gynhorthwy i berson hyglwyf, yn cynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006,
iii
i ddarparu cynhorthwy brys, neu
iv
i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, neu gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol.
Gofyniad i gau llwybrau cyhoeddus a thir penodol a pheidio â mynd iddynt yn ystod cyfnod yr argyfwng9
1
Pan fo paragraff (2) yn gymwys i lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol, rhaid i’r awdurdod perthnasol, yn ystod cyfnod yr argyfwng—
a
cau’r llwybr cyhoeddus neu’r tir mynediad, a
b
ei gadw ar gau tan y cynharaf o’r canlynol—
i
diwedd cyfnod yr argyfwng, neu
ii
yr adeg pan yw’r awdurdod yn ystyried nad yw’r cau yn angenrheidiol i atal, i ddiogelu rhag, i reoli neu i ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.
2
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i’r llwybrau cyhoeddus a’r tir mynediad yn ardal awdurdod perthnasol y mae’n ystyried —
a
eu bod yn debygol o ddenu niferoedd mawr o bobl yn ymgynnull neu’n dod yn agos i’w gilydd, neu
b
bod eu defnydd fel arall yn peri risg uchel i fynychder a lledaeniad haint yn ei ardal â’r coronafeirws.
3
Pan fo llwybr cyhoeddus wedi ei gau o dan reoliad 4 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad)(Cymru) 20209, mae’r llwybr i’w drin fel pe bai wedi ei gau o dan baragraff (1) o’r rheoliad hwn.
4
Ni chaiff unrhyw un ddefnyddio llwybr troed neu dir mynediad sydd ar gau yn rhinwedd paragraff (1) oni bai ei fod wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod perthnasol.
5
Rhaid i’r awdurdod perthnasol—
a
cyhoeddi rhestr o lwybrau cyhoeddus neu dir mynediad sydd ar gau yn ei ardal ar wefan;
b
codi a chynnal hysbysiadau mewn mannau amlwg sy’n rhoi gwybod i’r cyhoedd bod llwybr cyhoeddus neu dir mynediad ar gau.
6
At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at lwybr cyhoeddus neu dir mynediad yn cynnwys rhannau o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad.
7
Yn y rheoliad hwn—
a
ystyr “awdurdod perthnasol” yw—
i
awdurdod lleol,
ii
awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru,
iii
Cyfoeth Naturiol Cymru, neu
iv
yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol;
b
ystyr “llwybr cyhoeddus” yw llwybr troed, llwybr ceffylau, cilffordd, cilffordd gyfyngedig neu lwybr beiciau ac
i
mae i “llwybr troed”, “llwybr ceffylau” a “llwybr beiciau” yr un ystyr â “footpath”, “bridleway” a “cycle track” yn adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 198010;
ii
ystyr “cilffordd” yw cilffordd sydd ar agor i bob traffig o fewn yr ystyr a roddir i “bridleway open to all traffic” gan adran 66(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 198111;
iii
mae i “cilffordd gyfyngedig” yr ystyr a roddir i “restricted byway” gan adran 48(4) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 200012;
c
mae “tir mynediad” yn cynnwys tir y mae gan y cyhoedd fynediad iddo yn rhinwedd ei berchnogaeth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag “access land” yn adran 1(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 200013.
Gorfodi10
1
Caiff person perthnasol roi hysbysiad gwahardd i berson os yw’r person perthnasol yn credu’n rhesymol—
a
bod y person yn torri gofyniad yn rheoliad 4, 6 neu 7, a
b
ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur rhoi’r hysbysiad gwahardd at ddiben atal y person hwnnw rhag parhau i dorri’r gofyniad.
2
Pan fo person perthnasol yn ystyried bod person (“P”) yn torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1), caiff y person perthnasol—
a
cyfarwyddo P i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;
b
mynd â P i’r man hwnnw.
3
Caiff person perthnasol sy’n arfer y pŵer ym mharagraff (2)—
a
cyfarwyddo P i ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol;
b
defnyddio grym rhesymol wrth arfer y pŵer hwnnw.
4
Pan fo P yn blentyn yng nghwmni unigolyn (“U”) a chanddo gyfrifoldeb dros y plentyn—
a
caiff y person perthnasol gyfarwyddo U i fynd â P i’r man lle y mae P yn byw, a
b
rhaid i U, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, sicrhau bod P yn cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd neu gyfarwyddiad a roddir gan y person perthnasol i P.
5
At ddiben paragraff (4), mae gan U gyfrifoldeb am blentyn os oes gan U—
a
gwarchodaeth neu ofal am y plentyn am y tro, neu
b
cyfrifoldeb rhiant am y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989).
6
Ni chaiff person ond arfer y pŵer ym mharagraff (2) neu (4) os yw’r person perthnasol yn ystyried ei fod yn ddull angenrheidiol a chymesur o sicrhau cydymffurfedd â’r gofyniad.
7
Pan fo person perthnasol yn ystyried bod tri neu ragor o bobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 8(5), caiff y person perthnasol—
a
cyfarwyddo’r cynulliad i wasgaru;
b
cyfarwyddo unrhyw berson yn y cynulliad i ddychwelyd i’r man lle y mae’n byw;
c
mynd ag unrhyw berson yn y cynulliad i’r man lle y mae’n byw.
8
Mae paragraffau (3) i (6) o’r rheoliad hwn yn gymwys i arfer y pŵer ym mharagraff (7), fel y maent yn gymwys i arfer pŵer ym mharagraff (2).
9
Caiff person perthnasol symud unigolyn o lwybr cyhoeddus neu dir mynediad (o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 9(7)) sydd ar gau (neu sy’n cael ei gau) yn rhinwedd rheoliad 9(1), a chaiff defnyddio grym rhesymol i wneud hynny.
10
Caiff person perthnasol gymryd unrhyw gamau gweithredu eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i hwyluso arfer pŵer a roddir ar y person gan y rheoliad hwn neu reoliad 11.
11
At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13, ystyr “person perthnasol” yw—
a
cwnstabl,
b
swyddog cymorth cymunedol yr heddlu,
c
person sydd wedi ei ddynodi gan—
i
Weinidogion Cymru,
ii
awdurdod lleol
iii
awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, neu
iv
Cyfoeth Naturiol Cymru,
at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliadau 11, 12 ac 13 (ond gweler paragraffau (12) ac (13)).
12
Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod lleol arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thoriad (neu doriad honedig) gofyniad yn rheoliad 4, 6, 7 neu 9(4) yn unig.
13
Ni chaiff person a ddynodir gan awdurdod Parc Cenedlaethol neu Cyfoeth Naturiol Cymru arfer swyddogaethau person perthnasol ond mewn perthynas â thorri’r gofyniad yn rheoliad 9(4) (neu doriad honedig ohono).
14
Yn y rheoliad hwn a rheoliadau 11 a 12, mae cyfeiriadau at ofyniad yn cynnwys cyfeiriadau at gyfyngiad.
Pŵer mynd i mewn11
1
Caiff person perthnasol fynd i fangre—
a
os oes gan y person perthnasol sail resymol dros amau bod gofyniad a osodir gan y Rheoliadau hyn yn cael, wedi cael, neu ar fin cael ei dorri yn y fangre, a
b
os yw’n ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r gofyniad yn cael, wedi cael neu ar fin cael ei dorri.
2
Caiff person perthnasol sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
a
defnyddio grym rhesymol i fynd i’r fangre os yw’n angenrheidiol;
b
cymryd unrhyw bersonau eraill, cyfarpar a deunyddiau i’r fangre y mae’r person perthnasol yn ystyried eu bod yn briodol.
3
Rhaid i berson perthnasol sy’n mynd i fangre yn unol â pharagraff (1)—
a
os gofynnir iddo gan berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o bwy yw’r person perthnasol ac amlinellu y diben yr arferir y pŵer ato;
b
os nad yw’r fangre wedi ei meddiannu neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag yr oedd pan aeth y person perthnasol iddi.
Troseddau a chosbau12
1
Mae person sydd—
a
heb esgus rhesymol, yn torri gofyniad yn rheoliad 4, 6, 7, 8(5) neu 9(4), neu
b
yn torri’r gofyniad yn rheoliad 8(1),
yn cyflawni trosedd.
2
Mae person sy’n rhwystro, heb esgus rhesymol, unrhyw berson rhag cyflawni swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.
3
Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri cyfarwyddyd, neu’n methu â chydymffurfio â chyfarwyddiad neu hysbysiad gwahardd, a roddir gan berson perthnasol o dan reoliad 10 yn cyflawni trosedd.
4
Mae trosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w chosbi ar euogfarn ddiannod drwy ddirwy.
5
Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 198414 yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel petai’r rhesymau yn is-adran (5) yn cynnwys—
a
i gynnal iechyd y cyhoedd;
b
i gynnal trefn gyhoeddus.
6
Os profir bod trosedd o dan baragraff (1) wedi ei chyflawni gan gorff corfforedig—
a
wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i’r corff hwnnw, neu
b
i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog hwnnw,
mae’r swyddog (yn ogystal â’r corff corfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn, i gael achos yn ei erbyn a’i gosbi yn unol â hynny.
7
Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig.
8
Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid.
9
Caniateir i achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig ac eithrio partneriaeth gael ei dwyn yn enw’r corff yn hytrach nag yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforedig.
10
11
Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth.
12
Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei heuogfarnu o drosedd o dan y Rheoliadau hyn i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.
Hysbysiadau cosb benodedig13
1
Caiff person perthnasol ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r person perthnasol yn credu’n rhesymol—
a
ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a
b
ei fod yn 18 oed neu drosodd.
2
Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i awdurdod lleol a bennir yn yr hysbysiad.
3
Rhaid i’r awdurdod lleol a bennir yn yr hysbysiad fod yr awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yn yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.
4
Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
a
ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr hysbysiad;
b
ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
5
Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
a
rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu’r drosedd;
b
datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
c
pennu swm y gosb benodedig;
d
datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
e
pennu dulliau o dalu a ganiateir.
6
Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff 5(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8)).
7
Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.
8
Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn, swm y gosb benodedig yw £120.
9
Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
10
Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (9), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
11
Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
a
sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb am faterion ariannol yr awdurdod lleol, a
b
sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
12
Pan ddyroddir cosb benodedig mewn perthynas â’r drosedd honedig o dorri’r gofyniad yn rheoliad 9(4), mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “awdurdod lleol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.
Erlyn14
Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.
Dod i ben15
1
Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod y deuant i rym.
2
Nid yw’r rheoliad hwn yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.