Gofyniad i gau mangreoedd a busnesau yn ystod cyfnod yr argyfwng: darpariaeth benodol ynghylch llety gwyliau etc.I15

1

I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i safle gwyliau neu safle gwersylla (yn rhinwedd ei restru yn Rhan 3 o Atodlen 1), mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes (“P”) yn cynnwys rhwymedigaeth ar P i wneud ei orau glas i sicrhau fod unrhyw berson sy’n aros ar y safle pan yw’r busnes wedi peidio â chael ei gynnal yn gadael y fangre.

2

Ond nid yw’r rhwymedigaeth ym mharagraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy’n defnyddio cartref symudol ar safle gwyliau i’w fyw ynddo gan bobl o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 20136 yn gymwys iddo.

F13

I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i unrhyw fusnes arall a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen i ddarparu llety i unrhyw bersonau sy’n aros yn y llety hwnnw pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym ac—

a

na allant ddychwelyd i’w prif breswylfa, neu

b

sy’n defnyddio’r llety fel eu prif breswylfa.

3A

I’r graddau y mae rheoliad 4(4) yn gymwys i fusnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1, mae’r rhwymedigaeth ar y person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes yn gymwys yn ddarostyngedig i’r angen—

F3a

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

b

i gynnal y busnes drwy ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau eraill—

i

drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

ii

dros y ffôn, gan gynnwys ymholiadau drwy neges destun, neu

iii

drwy’r post.

F23B

Mae paragraff (3C) yn gymwys pan fo mangre a ddefnyddir ar gyfer busnes a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 wedi ei defnyddio—

a

i ddarparu llety yn unol â pharagraff (3), neu

b

i gynnal y busnes yn unol â pharagraff (3A).

3C

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

a

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

b

nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

c

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

4

Yn y rheoliad hwn ac yn Rhan 3 o’r Atodlen, ystyr “safle gwyliau” yw unrhyw dir yng Nghymru lle y gosodir cartref symudol neu garafán at ddibenion byw gan bobl (gan gynnwys unrhyw dir yng Nghymru a ddefnyddir ar y cyd â’r tir hwnnw), y mae’r caniatâd cynllunio perthnasol neu’r drwydded safle ar gyfer y tir mewn cysylltiad ag ef—

a

wedi ei fynegi i’w roi neu wedi ei mynegi i’w rhoi at ddefnydd gwyliau yn unig, neu

b

yn ei gwneud yn ofynnol bod adegau o’r flwyddyn pan na chaniateir gosod unrhyw gartref symudol neu garafán ar y safle i bobl fyw ynddo neu ynddi.

5

At ddibenion penderfynu pa un a yw safle yn safle gwyliau ai peidio, mae unrhyw ddarpariaeth yn y caniatâd cynllunio perthnasol neu yn y drwydded safle sy’n caniatáu gosod cartref symudol ar y tir i bobl fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn i’w hanwybyddu os yw wedi ei hawdurdodi i’r canlynol feddiannu’r cartref symudol—

a

y person sy’n berchennog y safle, neu

b

person sydd wedi ei gyflogi gan y person hwnnw ond nad yw’n meddiannu’r cartref symudol o dan gytundeb y mae Rhan 4 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 20137 yn gymwys iddo.