Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 22/05/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
6.—(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes, neu am ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng—
(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau ym mangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad yw personau ond yn cael mynediad i fangre’r busnes mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac
(c)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i fangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).
(2) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes, nad yw wedi ei restru yn Rhan 4 o Atodlen 1, sy’n cynnig nwyddau i’w gwerthu neu i’w llogi mewn siop, yn ystod cyfnod yr argyfwng—
(a)peidio â chynnal y busnes hwnnw ac eithrio drwy wneud danfoniadau neu drwy ddarparu gwasanaethau fel arall mewn ymateb i archebion neu ymholiadau a geir—
(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,
(ii)dros y ffôn, gan gynnwys archebion [F1neu ymholiadau] drwy neges destun, neu
(iii)drwy’r post;
(b)cau unrhyw fangre nad yw’n ofynnol i gynnal y busnes neu i ddarparu gwasanaethau fel a ganiateir gan is-baragraff (a);
(c)peidio â rhoi mynediad i unrhyw berson i’r fangre nad yw’n ofynnol i gynnal y busnes neu i ddarparu gwasanaethau fel a ganiateir gan is-baragraff (a).
[F2(2A) Pan na fo mangre wedi ei chau oherwydd ei bod yn fangre sydd ei hangen er mwyn cynnal busnes fel y’i caniateir gan baragraff (2)(a), rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—
(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),
(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac
(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).]
(3) Os yw busnes y mae paragraff (2) yn gymwys iddo (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (2) os yw’n peidio â chynnal busnes A.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 6(2)(a)(ii) wedi eu mewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 6(5)
F2Rhl. 6(2A) wedi ei fewnosod (C.) (25.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 (O.S. 2020/452), rhlau. 1(1), 3(4)
Gwybodaeth Cychwyn
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: