Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Cyfyngiadau ar fusnesau a gwasanaethau penodol eraill yn ystod cyfnod yr argyfwngLL+C

6.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes, neu am ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau ym mangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad yw personau ond yn cael mynediad i fangre’r busnes mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i fangre’r busnes (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).

(2Rhaid i berson sy’n gyfrifol am gynnal busnes, nad yw wedi ei restru yn Rhan 4 o Atodlen 1, sy’n cynnig nwyddau i’w gwerthu neu i’w llogi mewn siop, yn ystod cyfnod yr argyfwng—

(a)peidio â chynnal y busnes hwnnw ac eithrio drwy wneud danfoniadau neu drwy ddarparu gwasanaethau fel arall mewn ymateb i archebion neu ymholiadau a geir—

(i)drwy wefan, neu fel arall drwy gyfathrebiad ar-lein,

(ii)dros y ffôn, gan gynnwys archebion [F1neu ymholiadau] drwy neges destun, neu

(iii)drwy’r post;

(b)cau unrhyw fangre nad yw’n ofynnol i gynnal y busnes neu i ddarparu gwasanaethau fel a ganiateir gan is-baragraff (a);

(c)peidio â rhoi mynediad i unrhyw berson i’r fangre nad yw’n ofynnol i gynnal y busnes neu i ddarparu gwasanaethau fel a ganiateir gan is-baragraff (a).

[F2(2A) Pan na fo mangre wedi ei chau oherwydd ei bod yn fangre sydd ei hangen er mwyn cynnal busnes fel y’i caniateir gan baragraff (2)(a), rhaid i’r person sy’n gyfrifol am gynnal y busnes, yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr),

(b)nad yw personau ond yn cael mynediad i’r fangre mewn niferoedd digon bach fel bod modd cynnal y pellter hwnnw, ac

(c)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau sy’n aros i fynd i’r fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu rhwng gofalwr a’r person sy’n cael cymorth gan y gofalwr).]

(3Os yw busnes y mae paragraff (2) yn gymwys iddo (“busnes A”) yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”), mae’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad ym mharagraff (2) os yw’n peidio â chynnal busnes A.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 6 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)