xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cyfyngiadau ar fannau addoli, amlosgfeydd a chanolfannau cymunedol,

7.—(1Rhaid i berson sy’n gyfrifol am fan addoli sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod y man addoli ar gau, ac eithrio at ddefnydd a ganiateir gan baragraff (2).

(2Os cymrir pob cam rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn y man addoli, caniateir defnyddio’r man—

(a)ar gyfer angladdau,

(b)i ddarlledu (heb gynulleidfa) weithred o addoli neu angladd (boed dros y rhyngrwyd neu fel rhan o ddarllediad radio neu deledu), neu

(c)i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol neu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus brys (gan gynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer y digartref neu bobl hyglwyf, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng).

(3Rhaid i berson sy’n gyfrifol am amlosgfa sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod yr amlosgfa ar gau i aelodau’r cyhoedd, ac eithrio ar gyfer at y defnydd a ganiateir gan baragraff (4).

(4Os cymrir pob cam rhesymol wedi ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn yr amlosgfa, caiff yr amlosgfa agor i aelodau’r cyhoedd am angladdau neu gladdu (a darlledu angladd neu gladdu boed dros y rhyngrwyd neu fel arall).

(5Rhaid i berson sy’n gyfrifol am ganolfan gymunedol sicrhau, yn ystod cyfnod yr argyfwng, fod y ganolfan gymunedol ar gau ac eithrio—

(a)pan fo’n cael ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol hanfodol neu, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, wasanaethau cyhoeddus brys (gan gynnwys darparu banciau bwyd neu gymorth arall ar gyfer y digartref neu bersonau hyglwyf, sesiynau rhoi gwaed neu gymorth mewn argyfwng), a

(b)os cymrir pob cam rhesymol wedi ei gymryd i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng pob person yn y fangre tra darperir y gwasanaethau hynny.