Please note that the date you requested in the address for this web page is not an actual date upon which a change occurred to this item of legislation. You are being shown the legislation from , which is the first date before then upon which a change was made.

Cyfyngiadau ar symud a chynulliadau yn ystod cyfnod yr argyfwngLL+C

8.—(1Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson adael y man lle y mae’n byw [F1neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw] heb esgus rhesymol.

(2At ddibenion paragraff (1), mae esgus rhesymol yn cynnwys yr angen—

[F2(a)i gael cyflenwadau oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir yn Rhan 4 o Atodlen 1 gan gynnwys—

(i)bwyd a chyflenwadau meddygol ar gyfer y rheini yn yr un aelwyd (gan gynnwys anifeiliaid yn yr aelwyd) neu ar gyfer personau hyglwyf;

(ii)cyflenwadau ar gyfer cynnal, cynnal a chadw a gweithrediad yr aelwyd, neu aelwyd person hyglwyf;

(aa)i gael arian oddi wrth unrhyw fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 38 neu 39 o Atodlen 1 neu i adneuo arian gydag unrhyw fusnes neu wasanaeth o’r fath;]

[F3(b)i wneud ymarfer corff, ddim mwy nag unwaith y dydd (neu’n amlach os oes angen hyn oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd penodol), naill ai—

(i)ar ei ben ei hun,

(ii)gydag aelodau eraill o aelwyd y person, neu

(iii)gyda gofalwr y person;]

(c)i geisio cymorth meddygol, gan gynnwys cael gafael ar unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 42 o Atodlen 1 neu i gael mynediad at wasanaethau milfeddygol;

(d)i ddarparu gofal neu gymorth, gan gynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(1), i berson hyglwyf, neu i ddarparu [F4cynhorthwy] brys [F5“i unrhyw berson];

(e)i roi gwaed;

(f)i deithio at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol, pan na fo’n rhesymol ymarferol i’r person hwnnw weithio, neu ddarparu’r gwasanaethau hynny, o’r man lle y mae’n byw;

(g)i fynd i angladd—

[F6(i)fel person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd,

(ii)os caiff ei wahodd gan berson sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd, neu

(iii)fel gofalwr person sy’n mynd i’r angladd.]

[F7(ga)i ymweld â mynwent, claddfa neu ardd goffa i dalu teyrnged i berson ymadawedig;]

(h)i fodloni rhwymedigaeth gyfreithiol, gan gynnwys mynd i’r llys neu fodloni amodau mechnïaeth, neu i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol;

(i)i gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol, gan gynnwys—

(i)gofal plant neu gyfleusterau addysgol (pan fo’r rhain yn dal i fod ar gael i [F8blentyn y mae’r person yn rhiant mewn perthynas ag ef, neu y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto, neu ofal drosto]);

(ii)gwasanaethau cymdeithasol;

(iii)gwasanaethau a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau;

(iv)gwasanaethau a ddarperir i ddioddefwyr (megis dioddefwyr trosedd neu drais domestig);

(j)mewn perthynas â phlant nad ydynt yn byw yn yr un aelwyd â’u rhieni, neu un o’u rhieni, i barhau â threfniadau presennol ar gyfer gweld rhieni a phlant, a chyswllt rhyngddynt, ac at ddibenion y paragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sydd â gofal drosto;

(k)yn achos gweinidog yr efengyl neu arweinydd addoli, i fynd i’w fan addoli;

(l)i symud tŷ pan [F9na fo modd gohirio’r symud];

(m)i osgoi anaf neu salwch neu i ddianc rhag risg o [F10niwed] .

(3At ddibenion paragraff (1), mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n ddigartref.

(5Yn ystod cyfnod yr argyfwng, ni chaiff unrhyw berson gymryd rhan mewn cynulliad mewn man cyhoeddus o fwy na dau berson ac eithrio—

(a)pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd,

(b)pan fo’r cynulliad yn hanfodol at ddibenion gwaith,

(c)i fynd i angladd, neu

(d)pan fo’n angenrheidiol—

(i)i hwyluso symud tŷ,

(ii)i ddarparu gofal neu gynhorthwy i berson hyglwyf, yn cynnwys gofal personol perthnasol o fewn ystyr “relevant personal care” ym mharagraff 7(3B) o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006,

(iii)i ddarparu cynhorthwy brys [F11i unrhyw berson], neu

(iv)i gymryd rhan mewn achos cyfreithiol, neu gyflawni rhwymedigaeth gyfreithiol.

Diwygiadau Testunol

F6Rhl. 8(2)(g)(i)-(iii) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(2)(g)(i)-(iv) (7.4.2020 am 12.01 a.m.) gan Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (O.S. 2020/399), rhlau. 1(1), 6

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 8 mewn grym ar 26.3.2020 am 4.00 p.m., gweler rhl. 1(1)

(1)

2006 p. 47. Rhoddwyd is-baragraff (3B), ar y cyd ag is-baragraffau (1), (3) a (3A) i (3E), yn lle is-baragraffau (1) i (3) gan adran 66(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).