xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 4 a 6

ATODLEN 1Busnesau sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau neu gau

RHAN 1

1.  Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn gwestai neu glybiau aelodau.

2.—(1Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)), ond heb gynnwys—

(a)caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;

(b)ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;

(c)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.

(2Caiff ffreuturau yn y gweithle aros ar agor—

(a)pan na fo dewis arall ymarferol i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd; a

(b)pan y cymrir pob cam rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson sy’n defnyddio’r ffreutur.

3.  Bariau, gan gynnwys bariau mewn gwestai neu glybiau aelodau.

4.  Tafarndai.

RHAN 2

5.  Sinemâu.

6.  Theatrau.

7.  Clybiau nos.

8.  Neuaddau bingo.

9.  Neuaddau cyngerdd.

10.  Amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.

11.  Casinos.

12.  Siopau betio.

13.  Salonau ewinedd, harddwch, gwallt a barbwyr.

14.  Parlyrau tylino.

15.  Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.

16.  Canolfannau sglefrio.

17.  Pyllau nofio.

18.  Stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd, sbaon, neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden dan do eraill.

19.  Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae dan do.

20.  Ffeiriau pleser (boed yn yr awyr agored neu dan do).

21.  Meysydd chwarae, cyrtiau chwaraeon a champfeydd awyr agored.

22.  Marchnadoedd awyr agored (ac eithrio stondinau sy’n gwerthu bwyd).

23.  Ystafelloedd arddangos ceir.

24.  Tai arwerthiant.

RHAN 3

25.  Safleoedd gwyliau.

26.  Safleoedd gwersylla.

27.  Gwestai a llety gwely a brecwast

28.  Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

RHAN 4

29.  Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre (gan gynnwys sefydliadau a restrir yn Rhan 1 sydd, yn rhinwedd rheoliad 4(1), wedi peidio â gwerthu bwyd a diod i’w fwyta a’i hyfed yn y fangre).

30.  Siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar eu mangreoedd a siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol (yn cynnwys bragdai).

31.  Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.

32.  Siopau papurau newydd.

33.  Siopau nwyddau i’r cartref, cyflenwadau adeiladu ac offer.

34.  Gorsafoedd petrol.

35.  Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

36.  Siopau beiciau.

37.  Busnesau tacsi neu logi cerbydau.

38.  Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr a pheiriannau.

39.  Swyddfeydd post.

40.  Trefnwyr angladdau.

41.  Golchdai a siopau glanhau dillad.

42.  Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

43.  Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.

44.  Siopau cyflenwadau amaethyddol.

45.  Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.

46.  Meysydd parcio.

47.  Toiledau cyhoeddus.