xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 1
1. Clefydau anadlu cronig (hirdymor), megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, emffysema neu froncitis.
2. Clefyd cronig y galon, megis methiant y galon.
3. Clefyd cronig yr arennau.
4. Clefyd cronig yr afu/iau, megis hepatitis.
5. Cyflyrau niwrolegol cronig, megis clefyd Parkinson, clefyd niwronau motor, sglerosis ymledol (MS), anabledd dysgu neu barlys yr ymennydd.
6. Diabetes.
7. Problemau â’r ddueg, megis clefyd y crymangelloedd neu os yw’r ddueg wedi ei thynnu.
8. System imiwnedd wan, gan gynnwys o ganlyniad i gyflyrau megis HIV ac AIDS, neu feddyginiaethau megis tabledau steroidau neu gemotherapi.
9. Bod dros bwysau yn ddifrifol, gyda mynegai màs y corff o 40 neu uwch.