ATODLEN 1Busnesau sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau F3penodol neu gau

Rheoliadau 4 a 6

Annotations:
Amendments (Textual)

RHAN 1

I11

Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn gwestai neu glybiau aelodau.

I22

1

Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)), ond heb gynnwys—

a

caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;

b

ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;

c

gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.

2

Caiff ffreuturau yn y gweithle aros ar agor—

a

pan na fo dewis arall ymarferol i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd; a

b

F7pan gymerir pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson sy’n defnyddio’r ffreutur.

I33

Bariau, gan gynnwys bariau mewn gwestai neu glybiau aelodau.

I44

Tafarndai.

RHAN 2

I55

Sinemâu.

I66

Theatrau.

I77

Clybiau nos.

I88

Neuaddau bingo.

I99

Neuaddau cyngerdd.

I1010

Amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.

I1111

Casinos.

I1212

Siopau betio.

I1313

Salonau ewinedd, harddwch, gwallt a barbwyr.

I1414

Parlyrau tylino.

I1515

Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.

I1616

Canolfannau sglefrio.

I1717

Pyllau nofio.

I1818

Stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd, sbaon, neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden dan do eraill.

I1919

Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae dan do.

I2020

Ffeiriau pleser (boed yn yr awyr agored neu dan do).

I2121

Meysydd chwarae, cyrtiau chwaraeon a champfeydd awyr agored.

I2222

Marchnadoedd awyr agored (ac eithrio F5marchnadoedd da byw a stondinau sy’n gwerthu bwyd).

I2323

Ystafelloedd arddangos ceir.

I2424

Tai arwerthiant F6(ac eithrio arwerthiannau da byw).

RHAN 3

I2525

Safleoedd gwyliau.

I2626

Safleoedd gwersylla.

I2727

Gwestai a llety gwely a brecwast

I2828

Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).

RHAN 4

I2929

Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed F1oddi ar y fangre (gan gynnwys sefydliadau a restrir yn Rhan 1 sydd, yn rhinwedd rheoliad 4(1), wedi peidio â gwerthu bwyd a diod i’w fwyta a’i hyfed yn y fangre).

I3030

Siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar eu mangreoedd a siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol (yn cynnwys bragdai).

I3131

Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.

I3232

Siopau papurau newydd.

I3333

Siopau nwyddau i’r cartref, cyflenwadau adeiladu ac offer.

I3434

Gorsafoedd petrol.

I3535

Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.

I3636

Siopau beiciau.

I3737

Busnesau tacsi neu logi cerbydau.

I3838

Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr F4, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid..

I3939

Swyddfeydd post.

I4040

Trefnwyr angladdau.

I4141

Golchdai a siopau glanhau dillad.

I4242

Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.

I4343

Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.

I44F244

Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.

44A

Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.

I4545

Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.

I4646

Meysydd parcio.

I4747

Toiledau cyhoeddus.

ATODLEN 2Cyflyrau Iechyd Isorweddol

Rheoliad 1

I481

Clefydau anadlu cronig (hirdymor), megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, emffysema neu froncitis.

I492

Clefyd cronig y galon, megis methiant y galon.

I503

Clefyd cronig yr arennau.

I514

Clefyd cronig yr afu/iau, megis hepatitis.

I525

Cyflyrau niwrolegol cronig, megis clefyd Parkinson, clefyd niwronau motor, sglerosis ymledol (MS), anabledd dysgu neu barlys yr ymennydd.

I536

Diabetes.

I547

Problemau â’r ddueg, megis clefyd y crymangelloedd neu os yw’r ddueg wedi ei thynnu.

I558

System imiwnedd wan, gan gynnwys o ganlyniad i gyflyrau megis HIV ac AIDS, neu feddyginiaethau megis tabledau steroidau neu gemotherapi.

I569

Bod dros bwysau yn ddifrifol, gyda mynegai màs y corff o 40 neu uwch.