Rheoliadau 4 a 6
ATODLEN 1LL+CBusnesau sy’n ddarostyngedig i gyfyngiadau [penodol] neu gau
RHAN 1LL+C
1. Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn gwestai neu glybiau aelodau.LL+C
2.—(1) Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)), ond heb gynnwys—LL+C
(a)caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;
(b)ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;
(c)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.
(2) Caiff ffreuturau yn y gweithle aros ar agor—
(a)pan na fo dewis arall ymarferol i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd; a
(b)[pan gymerir pob mesur] rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson sy’n defnyddio’r ffreutur.
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
3. Bariau, gan gynnwys bariau mewn gwestai neu glybiau aelodau.LL+C
4. Tafarndai.LL+C
RHAN 2LL+C
5. Sinemâu.LL+C
6. Theatrau.LL+C
7. Clybiau nos.LL+C
8. Neuaddau bingo.LL+C
9. Neuaddau cyngerdd.LL+C
10. Amgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd a gwasanaethau archifau.LL+C
11. Casinos.LL+C
12. Siopau betio.LL+C
13. Salonau ewinedd, harddwch, gwallt a barbwyr.LL+C
14. Parlyrau tylino.LL+C
15. Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.LL+C
16. Canolfannau sglefrio.LL+C
17. Pyllau nofio.LL+C
18. Stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd, sbaon, neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden dan do eraill.LL+C
19. Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae dan do.LL+C
20. Ffeiriau pleser (boed yn yr awyr agored neu dan do).LL+C
21. Meysydd chwarae, cyrtiau chwaraeon a champfeydd awyr agored.LL+C
22. Marchnadoedd awyr agored (ac eithrio [marchnadoedd da byw a] stondinau sy’n gwerthu bwyd).LL+C
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
23. Ystafelloedd arddangos ceir.LL+C
24. Tai arwerthiant [(ac eithrio arwerthiannau da byw)].LL+C
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
RHAN 3LL+C
25. Safleoedd gwyliau.LL+C
26. Safleoedd gwersylla.LL+C
27. Gwestai a llety gwely a brecwastLL+C
28. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).LL+C
RHAN 4LL+C
29. Manwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed [oddi ar] y fangre (gan gynnwys sefydliadau a restrir yn Rhan 1 sydd, yn rhinwedd rheoliad 4(1), wedi peidio â gwerthu bwyd a diod i’w fwyta a’i hyfed yn y fangre).LL+C
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
30. Siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol i’w yfed oddi ar eu mangreoedd a siopau sydd â thrwydded i werthu alcohol (yn cynnwys bragdai).LL+C
31. Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.LL+C
32. Siopau papurau newydd.LL+C
33. Siopau nwyddau i’r cartref, cyflenwadau adeiladu ac offer.LL+C
34. Gorsafoedd petrol.LL+C
35. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.LL+C
36. Siopau beiciau.LL+C
37. Busnesau tacsi neu logi cerbydau.LL+C
38. Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr [, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.].LL+C
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
39. Swyddfeydd post.LL+C
40. Trefnwyr angladdau.LL+C
41. Golchdai a siopau glanhau dillad.LL+C
42. Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.LL+C
43. Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.LL+C
[44. Siopau cyflenwadau amaethyddol neu ddyframaethu.LL+C
Diwygiadau Testunol
Gwybodaeth Cychwyn
44A. Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.]LL+C
45. Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.LL+C
46. Meysydd parcio.LL+C
47. Toiledau cyhoeddus.LL+C
Rheoliad 1
ATODLEN 2LL+CCyflyrau Iechyd Isorweddol
1. Clefydau anadlu cronig (hirdymor), megis asthma, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, emffysema neu froncitis.LL+C
2. Clefyd cronig y galon, megis methiant y galon.LL+C
3. Clefyd cronig yr arennau.LL+C
4. Clefyd cronig yr afu/iau, megis hepatitis.LL+C
5. Cyflyrau niwrolegol cronig, megis clefyd Parkinson, clefyd niwronau motor, sglerosis ymledol (MS), anabledd dysgu neu barlys yr ymennydd.LL+C
6. Diabetes.LL+C
7. Problemau â’r ddueg, megis clefyd y crymangelloedd neu os yw’r ddueg wedi ei thynnu.LL+C
8. System imiwnedd wan, gan gynnwys o ganlyniad i gyflyrau megis HIV ac AIDS, neu feddyginiaethau megis tabledau steroidau neu gemotherapi.LL+C
9. Bod dros bwysau yn ddifrifol, gyda mynegai màs y corff o 40 neu uwch.LL+C