Search Legislation

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 2 yn cynnwys diwygiad i adran 9 oʼr Ddeddf. Mae adran 9 oʼr Ddeddf yn ymwneud ag unrhyw benderfyniad y mae Gweinidogion Cymru yn ei wneud ynghylch a yw darparwr gwasanaeth, person syʼn gwneud cais i fod yn ddarparwr gwasanaeth, unigolyn cyfrifol neu berson sydd iʼw ddynodiʼn unigolyn cyfrifol (y cyfeirir atynt ar y cyd o hyn ymlaen fel “person perthnasol”) yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu, yn ôl y digwydd, yn unigolyn cyfrifol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio adran 9 i estyn cymhwysiad is-adran (6) i gynnwys unrhyw berson arall syʼn gysylltiedig â pherson perthnasol neu a oedd gynt yn gysylltiedig â pherson perthnasol.

Effaith y diwygiad hwn yw caniatáu i Weinidogion Cymru ystyried tystiolaeth bod unrhyw berson syʼn gysylltiedig â pherson perthnasol neu a oedd gynt yn gysylltiedig â pherson perthnasol wedi bod yn gyfrifol am gamymddwyn neu gamreoli, neu wedi cyfrannu ato neu wedi ei hwyluso, wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig yng Nghymru neu wasanaeth cyfatebol y tu allan i Gymru.

Mae Rhan 3 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau Cofrestru”). Maeʼr Rheoliadau Cofrestru wedi eu gwneud o dan adrannau 6 ac 11 oʼr Ddeddf.

Mae adran 6(1) oʼr Ddeddf yn nodiʼr wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi gwybodaeth ychwanegol y mae rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru.

Mae rheoliad 3 oʼr Rheoliadau Cofrestru yn pennuʼr wybodaeth ychwanegol sydd iʼw darparu gan ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru. Mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1 iʼr Rheoliadau Cofrestru.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 3A yn y Rheoliadau Cofrestru.

Mae rheoliad 3A yn nodiʼr wybodaeth ychwanegol y mae rhaid ei darparu, yn achos corff corfforedig, gan bob cyfarwyddwr, ymddiriedolwr neu aelod o’r pwyllgor rheoli; yn achos partneriaeth, gan bob partner; ac yn achos corff anghorfforedig, gan bob person syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff.

Mae rheoliad 7 yn cynnwys darpariaeth drosiannol syʼn berthnasol i’r rheoliad 3A a fewnosodir.

Mae Rhan 4 yn diwygio pob un oʼr setiau a ganlyn o Reoliadau (y cyfeirir atynt ar y cyd o hyn ymlaen fel “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig”) sydd wedi eu gwneud o dan adrannau 27 ac 28 oʼr Ddeddf:

(a)Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017,

(b)Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,

(c)Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,

(d)Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, ac

(e)Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

Maeʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn nodiʼr gofynion rheoleiddiol syʼn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau a reoleiddir o dan y Ddeddf. Y gwasanaethau hyn yw gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau lleoli oedolion, gwasanaethau eirioli, gwasanaethau maethu a gwasanaethau mabwysiadu.

Ym mhob set oʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig, mae Atodlen 3 yn rhestruʼr digwyddiadau y mae rhaid iʼr darparwr gwasanaeth hysbysuʼr rheoleiddiwr gwasanaethau, sef Gweinidogion Cymru, amdanynt.

Mae rheoliad 9 yn rhoi paragraff 3 newydd a pharagraff newydd 3A yn lleʼr paragraff 3 presennol o Atodlen 3 i bob set oʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig.

Y digwyddiad a restrir ym mharagraff 3 newydd yw unrhyw newid iʼr personau syʼn rhan oʼr corff a gyfansoddir (yn ffurfiol neuʼn anffurfiol) fel corff gwneud penderfyniadauʼr sefydliad, megis cyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr neu aelodau pwyllgor rheoliʼr darparwr gwasanaeth pan foʼr darparwr gwasanaeth yn gorff corfforedig.

Y digwyddiad a restrir ym mharagraff newydd 3A yw unrhyw newid iʼr personau syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth corff y darparwr gwasanaeth pan foʼr darparwr gwasanaeth yn gorff anghorfforedig.

Mae Rhan 5 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”).

Mae Rheoliadau 2017 yn nodiʼr gofynion rheoleiddiol syʼn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref.

Mae Rhan 10 o Reoliadau 2017 yn cynnwys gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion syʼn gweithio yn y gwasanaeth.

Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 35 o Reoliadau 2017.

Mae paragraff (a) yn amnewid paragraff 2(f) o reoliad 35 o Reoliadau 2017 syʼn darparu, pan fo darparwr gwasanaeth yn cyflogi person ac eithrio fel rheolwr i ddarparu gofal a chymorth mewn cysylltiad â chartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth cymorth cartref, fod rhaid iʼr person fod wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn 6 mis i ddechrau ei gyflogaeth.

Mae paragraff (b) yn mewnosod paragraff newydd 2(g) o reoliad 35 o Reoliadau 2017 syʼn darparu, pan fo person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau (syʼn cynnwys gweithwyr asiantaeth) ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth cymorth cartref, fod rhaid iʼr person hwnnw fod wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn 6 mis iʼr dyddiad y cymerir y person ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth oʼr fath.

Mae paragraff (d) yn mewnosod paragraff newydd 11 i ddarparu nad ywʼr gofyniad bod person wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â rheoliad 35(2)(f) ac (g) yn gymwys pan foʼr person hwnnw wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i weithio fel nyrs, neu broffesiynolyn cofrestredig sydd wedi ei gofrestru âʼr Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources