Cyfyngiad ar fannau gwaith eraillLL+C

3.  Ar ôl rheoliad 6 o’r prif Reoliadau mewnosoder—

Cyfyngiad cyffredinol ar fannau gwaith

6A.(1) Rhaid i berson sy’n gyfrifol am waith a gyflawnir mewn mangre lle mae person yn gweithio, pan yw gwaith o’r fath yn cael ei gyflawni yn ystod cyfnod yr argyfwng, gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre (ac eithrio rhwng dau aelod o’r un aelwyd, neu ofalwr a’r person a gynorthwyir gan y gofalwr).

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fangre a ddefnyddir i gynnal busnes, neu ddarparu gwasanaeth, a restrir yn Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 3 mewn grym ar 7.4.2020 am 12.01 a.m., gweler rhl. 1(1)