Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 44 (Cy. 5)

Amaethyddiaeth, Cymru

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020

Gwnaed

21 Ionawr 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Ionawr 2020

Yn dod i rym

31 Ionawr 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(2), ac mewn perthynas â’r meysydd milfeddygol a ffytoiechydol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd(3).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a chyda chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer pwerau a roddir gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(4).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(5), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51), a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a’i diddymu’n rhagolygol gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) gan gael effaith o’r diwrnod ymadael (gweler adran 20 o’r Ddeddf honno).

(4)

1973 p. 51; diwygiwyd adran 56(1) gan O.S. 2011/1043, a’i diwygio’n rhagolygol gan baragraff 17 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 o ddyddiad ac amser sydd i’w bennu.

(5)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2019/1243 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 198, 25.7.2019, t. 241).