Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/01/2024
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020, RHAN 1.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Ionawr 2020.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “archwiliad” (“audit”) yw archwiliad o awdurdod cymwys a gynhelir at ddibenion Erthygl 6 mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol;
ystyr “archwilydd” (“auditor”) yw person sy’n cynnal archwiliad ar ran awdurdod cymwys;
ystyr “arolygydd” (“inspector”), mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, yw arolygydd, arolygydd milfeddygol, neu swyddog arall a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod dynodedig arall i weithredu o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno;
ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;
mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”), mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, yr un ystyr ag sydd iddo yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;
ystyr “awdurdod dynodedig” (“designated authority”) yw awdurdod sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
ystyr “cynorthwyydd swyddogol” (“official auxiliary”) yw cynrychiolydd i Weinidogion Cymru sydd wedi ei hyfforddi’n briodol ac sy’n gweithredu o dan gyfrifoldeb neu oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol i gyflawni rheolaethau swyddogol penodol neu dasgau penodol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau swyddogol eraill;
ystyr “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yw deddfwriaeth [F1uniongyrchol yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig] sy’n llywodraethu’r meysydd a restrir yn [F2is-baragraffau (a) i (f)] o Erthygl 1(2), ac eithrio deddfwriaeth bwyd a diogelwch bwyd, bwyd anifeiliaid a diogelwch bwyd anifeiliaid i’r graddau—
y mae deddfwriaeth o’r fath wedi ei diffinio fel “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” neu “cyfraith bwyd berthnasol” yn y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd,
y mae deddfwriaeth o’r fath yn ymwneud â sylweddau y gall eu defnydd neu eu presenoldeb ar gnydau i gynhyrchu neu brosesu bwyd neu fwyd anifeiliaid arwain at weddillion o’r sylweddau hynny mewn bwyd neu mewn bwyd anifeiliaid, neu
y mae’n ymwneud ag ychwanegion bwyd anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid meddyginiaethol;
mae i “gweithgareddau swyddogol eraill” yr ystyr a roddir i “other official activities” gan Erthygl 2(2);
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw gyfrwng cludo;
ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinarian”) yw milfeddyg sydd wedi ei benodi gan Weinidogion Cymru ac sydd wedi cymhwyso’n briodol i gynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill er mwyn gwirio cydymffurfedd â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2);
ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw’r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(1) ac eithrio’r rheini a restrir yn Erthygl 1(4);
ystyr “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(1);
ystyr “y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd” (“the Feed and Food Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(2);
[F3ystyr “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol” (“the Official Controls Regulations”) yw Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau Gweithredu, y Rheoliadau Dirprwyedig a’r offerynnau statudol a wnaed oddi tano;]
ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yw swyddog sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod dynodedig i [F4orfodi’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol] a’r Rheoliadau hyn.
(2) Yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol” ym mharagraff (1)—
(a)ystyr “bwydydd anifeiliaid meddyginiaethol” yw unrhyw gymysgedd o fwyd anifeiliaid a chynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sydd â nodweddion ar gyfer trin neu atal afiechyd, adfer, cywiro neu addasu swyddogaethau ffisiolegol mewn anifeiliaid, neu gynhyrchion a bwyd anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid sydd wedi eu paratoi’n barod ar gyfer eu marchnata ac y bwriedir eu bwydo i anifeiliaid heb eu prosesu ymhellach, ac
(b)ystyr “ychwanegion sootechnegol” yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn y categorïau a grybwyllir yn Erthygl 6.1(d) ac (e) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion ar gyfer eu defnyddio mewn maeth anifeiliaid(3), ac eithrio’r rheini sy’n perthyn i’r grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw.
(3) Oni ddarperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyron ag sydd i’r termau Saesneg cyfatebol yn Rheoliad yr UE.
(4) Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “Erthygl” neu “Teitl” yn gyfeiriad at Erthygl neu Deitl yn Rheoliad yr UE.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639), rhlau. 1(2), 3(2)(c)
F2Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (27.3.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206), rhlau. 1, 55(2)
F3Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639), rhlau. 1(2), 3(2)(a)
F4Gair yn rhl. 2(1) wedi ei hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639), rhlau. 1(2), 3(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)
3.—(1) Mae’r Asiantaeth wedi ei dynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4 mewn perthynas â gofynion lles anifeiliaid, i’r graddau ei bod wedi ei dynodi i fod yr awdurdod cymwys a grybwyllir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014(4).
(2) Mewn unrhyw achos arall mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi i fod yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4 mewn perthynas â meysydd a lywodraethir gan y ddeddfwriaeth berthnasol.
(3) Mae awdurdodau lleol ac awdurdodau bwyd lleol (gan gynnwys unrhyw rai sy’n awdurdodau gorfodi o dan unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol) yn awdurdodau dynodedig mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y maent yn eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.
(4) Rhaid i unrhyw awdurdod dynodedig lunio cofnodion ysgrifenedig (ar bapur neu ar ffurf electronig) o reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir ganddynt, a rhaid i gofnodion o’r fath gynnwys—
(a)disgrifiad o ddiben y rheolaethau swyddogol a’r gweithgareddau swyddogol eraill perthnasol,
(b)y dulliau rheoli a gymhwyswyd,
(c)y canlyniad, a
(d)pan fo’n briodol, unrhyw gamau y mae’n ofynnol i’r awdurdod dynodedig eu cymryd.
(5) Pan fo unrhyw awdurdod dynodedig wedi nodi achos o fethu â chydymffurfio drwy gymhwyso rheolaethau swyddogol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr y busnes yn brydlon am yr achos o fethu â chydymffurfio.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)
4. Caiff Gweinidogion Cymru ac unrhyw awdurdodau dynodedig eraill ddatgelu gwybodaeth i’w gilydd ac i awdurdodau cymwys eraill F5... at ddibenion cymhwyso’r Rheoliadau hyn [F6a’r Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol].
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639), rhlau. 1(2), 3(3)
F6Geiriau yn rhl. 4 wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639), rhlau. 1(2), 3(4)
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.1.2020, gweler rhl. 1(2)
OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4).
O.S. 2009/3376 (Cy. 298), a ddiwygiwyd gan O.S. 2011/626 (Cy. 90), O.S. 2013/479 (Cy. 55), O.S. 2013/2007 (Cy. 298) ac O.S. 2014/2714 (Cy. 271) ac a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/434 (Cy. 102) ac XXXX (Cy. XX).
OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 29, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 156, 13.6.2019, t. 1.
O.S. 2014/951 (Cy. 92), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: