xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Ionawr 2020.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “archwiliad” (“audit”) yw archwiliad o awdurdod cymwys a gynhelir at ddibenion Erthygl 6 mewn perthynas â deddfwriaeth berthnasol;

ystyr “archwilydd” (“auditor”) yw person sy’n cynnal archwiliad ar ran awdurdod cymwys;

ystyr “arolygydd” (“inspector”), mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, yw arolygydd, arolygydd milfeddygol, neu swyddog arall a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod dynodedig arall i weithredu o dan y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”), mewn perthynas ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol, yr un ystyr ag sydd iddo yn y ddeddfwriaeth berthnasol honno;

ystyr “awdurdod dynodedig” (“designated authority”) yw awdurdod sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “cynorthwyydd swyddogol” (“official auxiliary”) yw cynrychiolydd i Weinidogion Cymru sydd wedi ei hyfforddi’n briodol ac sy’n gweithredu o dan gyfrifoldeb neu oruchwyliaeth milfeddyg swyddogol i gyflawni rheolaethau swyddogol penodol neu dasgau penodol sy’n gysylltiedig â gweithgareddau swyddogol eraill;

ystyr “deddfwriaeth berthnasol” (“relevant legislation”) yw deddfwriaeth Ewropeaidd a domestig sy’n llywodraethu’r meysydd a restrir yn is-baragraffau (a), (c), (d), (e) ac (f) o Erthygl 1(2), ac eithrio deddfwriaeth bwyd a diogelwch bwyd, bwyd anifeiliaid a diogelwch bwyd anifeiliaid i’r graddau—

(a)

y mae deddfwriaeth o’r fath wedi ei diffinio fel “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” neu “cyfraith bwyd berthnasol” yn y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd,

(b)

y mae deddfwriaeth o’r fath yn ymwneud â sylweddau y gall eu defnydd neu eu presenoldeb ar gnydau i gynhyrchu neu brosesu bwyd neu fwyd anifeiliaid arwain at weddillion o’r sylweddau hynny mewn bwyd neu mewn bwyd anifeiliaid, neu

(c)

y mae’n ymwneud ag ychwanegion bwyd anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid meddyginiaethol;

mae i “gweithgareddau swyddogol eraill” yr ystyr a roddir i “other official activities” gan Erthygl 2(2);

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw gyfrwng cludo;

ystyr “milfeddyg swyddogol” (“official veterinarian”) yw milfeddyg sydd wedi ei benodi gan Weinidogion Cymru ac sydd wedi cymhwyso’n briodol i gynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill er mwyn gwirio cydymffurfedd â’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2);

ystyr “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) yw’r gweithgareddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 2(1) ac eithrio’r rheini a restrir yn Erthygl 1(4);

ystyr “Rheoliad yr UE” (“the EU Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(1);

ystyr “y Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Bwyd” (“the Feed and Food Regulations”) yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(2);

ystyr “Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE” (“the EU Official Control Regulations”) yw Rheoliad yr UE a’r Rheoliadau Gweithredu a’r Rheoliadau Dirprwyedig a wnaed oddi tanynt;

ystyr “swyddog gorfodi” (“enforcement officer”) yw swyddog sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod dynodedig i orfodi Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE a’r Rheoliadau hyn.

(2Yn y diffiniad o “deddfwriaeth berthnasol” ym mharagraff (1)—

(a)ystyr “bwydydd anifeiliaid meddyginiaethol” yw unrhyw gymysgedd o fwyd anifeiliaid a chynnyrch meddyginiaethol milfeddygol sydd â nodweddion ar gyfer trin neu atal afiechyd, adfer, cywiro neu addasu swyddogaethau ffisiolegol mewn anifeiliaid, neu gynhyrchion a bwyd anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid sydd wedi eu paratoi’n barod ar gyfer eu marchnata ac y bwriedir eu bwydo i anifeiliaid heb eu prosesu ymhellach, ac

(b)ystyr “ychwanegion sootechnegol” yw ychwanegion bwyd anifeiliaid yn y categorïau a grybwyllir yn Erthygl 6.1(d) ac (e) o Reoliad (EC) Rhif 1831/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion ar gyfer eu defnyddio mewn maeth anifeiliaid(3), ac eithrio’r rheini sy’n perthyn i’r grwpiau swyddogaethol a restrir ym mharagraff 4(a), (b) ac (c) o Atodiad 1 i’r Rheoliad hwnnw.

(3Oni ddarperir fel arall yn y rheoliad hwn, mae i dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyron ag sydd i’r termau Saesneg cyfatebol yn Rheoliad yr UE.

(4Oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at “Erthygl” neu “Teitl” yn gyfeiriad at Erthygl neu Deitl yn Rheoliad yr UE.

Dynodiadau at ddibenion Erthygl 4

3.—(1Mae’r Asiantaeth wedi ei dynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4 mewn perthynas â gofynion lles anifeiliaid, i’r graddau ei bod wedi ei dynodi i fod yr awdurdod cymwys a grybwyllir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014(4).

(2Mewn unrhyw achos arall mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi i fod yr awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4 mewn perthynas â meysydd a lywodraethir gan y ddeddfwriaeth berthnasol.

(3Mae awdurdodau lleol ac awdurdodau bwyd lleol (gan gynnwys unrhyw rai sy’n awdurdodau gorfodi o dan unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol) yn awdurdodau dynodedig mewn perthynas â swyddogaethau gorfodi a gweithredu (ac eithrio erlyn) y maent yn eu harfer o dan ddeddfwriaeth berthnasol.

(4Rhaid i unrhyw awdurdod dynodedig lunio cofnodion ysgrifenedig (ar bapur neu ar ffurf electronig) o reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir ganddynt, a rhaid i gofnodion o’r fath gynnwys—

(a)disgrifiad o ddiben y rheolaethau swyddogol a’r gweithgareddau swyddogol eraill perthnasol,

(b)y dulliau rheoli a gymhwyswyd,

(c)y canlyniad, a

(d)pan fo’n briodol, unrhyw gamau y mae’n ofynnol i’r awdurdod dynodedig eu cymryd.

(5Pan fo unrhyw awdurdod dynodedig wedi nodi achos o fethu â chydymffurfio drwy gymhwyso rheolaethau swyddogol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr y busnes yn brydlon am yr achos o fethu â chydymffurfio.

Cyfnewid gwybodaeth

4.  Caiff Gweinidogion Cymru ac unrhyw awdurdodau dynodedig eraill ddatgelu gwybodaeth i’w gilydd ac i awdurdodau cymwys eraill yn y Deyrnas Unedig ac mewn Aelod-wladwriaethau eraill at ddibenion cymhwyso’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol yr UE.

(1)

OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/478 (OJ Rhif L 82, 25.3.2019, t. 4).

(3)

OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 29, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan OJ Rhif L 156, 13.6.2019, t. 1.

(4)

O.S. 2014/951 (Cy. 92), y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.